In Press Release

ASH Cymru’n Dweud Bod Yn Rhaid I Gyflogwyr Yng Nghymru Wneud Mwy I Helpu Eu Staff I Roi’r Gorau I Smygu, Wrth Lansio Ymgyrch Fawr I Ostwng Cyfraddau Smygu Yng Nghymru

Rhaid i bob cyflogwr yng Nghymru hybu cymorth i roi’r gorau i smygu er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ostwng cyfraddau smygu o 23% i 16% erbyn 2020, yn ôl ASH Cymru.

Daw’r alwad wrth i ymgyrch newydd – Rhoi’r Gorau dros Gymru – gael ei lansio heddiw gan Action on Smoking and Health (ASH) yng Nghymru cyn gemau rygbi rhyngwladol yr hydref.

Bydd yr ymgyrch yn annog y 500,000 o smygwyr yng Nghymru i geisio rhoi’r gorau iddi a bydd yn galw am fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu yn y gweithle, yn ogystal â mwy o gymorth i roi’r gorau i smygu i grwpiau agored i niwed fel menywod beichiog a phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae bron chwarter pobl Cymru’n dal i smygu, gan gynnwys mwy na 30% o’r rhai sy’n gwneud gwaith arferol a gwaith llaw. Ychydig iawn o fusnesau yng Nghymru sy’n cynnig cymorth i roi’r gorau i smygu er bod smygu’n cael effaith ddifrifol ar gynhyrchiant trwy seibiannau smygu ac iechyd y gweithlu.

Dangosodd ymchwil ddiweddar gan ASH Cymru fod £41 miliwn yn cael eu colli bob blwyddyn i fusnesau yng Nghymru trwy seibiannau smygu a bod £49.5 miliwn yn cael eu colli trwy absenoldeb salwch gormodol.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau lleihau cyfraddau smygu o’r ffigur cyfredol sef 23% i 16% erbyn 2020 – sy’n golygu 25,000 o bobl yn rhoi’r gorau iddi bob blwyddyn yng Nghymru – a hynny heb i neb arall ddechrau smygu.

Bydd yr ymgyrch, a fydd yn rhedeg am chwe mis, yn galw am:

  • I bob gweithle yng Nghymru hybu cymorth hyblyg i roi’r gorau i smygu i’w weithwyr. Mae mwy na 30% o’r bobl sy’n gwneud gwaith arferol a gwaith llaw yn smygu ar hyn o bryd, canran lawer uwch na’r cyfartaledd cyffredinol.
  • I’r holl fydwragedd ac ymwelwyr iechyd yng Nghymru gael eu haddysgu mewn smygu yn ystod beichiogrwydd a chael hyfforddiant ar ymyriadau byr fel rhan o’u hyfforddiant cyn-gofrestru. Ar hyn o bryd mae 16% o fenywod beichiog yng Nghymru’n smygu drwy gydol eu beichiogrwydd, sef y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig.
  • I’r holl ddarparwyr gwasanaethau iechyd meddwl gael eu hyfforddi mewn cymorth i roi’r gorau i smygu. Mewn cyferbyniad â’r gostyngiad yn y cyfraddau smygu ymysg y boblogaeth gyffredinol yn yr ugain mlynedd diwethaf, ychydig o newid a fu yn y gyfradd smygu ymysg pobl ag anhwylderau meddyliol yn yr un cyfnod.

Dywedodd Elen de Lacy, Prif Weithredwr ASH Cymru:

“Os ydyn ni’n mynd i ostwng cyfraddau smygu yng Nghymru ac annog mwy o bobl i roi’r gorau iddi mae’n rhaid i ni fuddsoddi mewn gwasanaethau hyblyg a hygyrch i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn. Mae gan weithleoedd yng Nghymru ran hanfodol i’w chwarae wrth ddod â chyfraddau smygu i lawr. Gallan nhw fod yn lleoedd cefnogol i roi’r gorau iddi ond mae angen i gyflogwyr roi amser i’w staff wneud hynny. Hefyd mae angen i ni sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â grwpiau agored i niwed fel bydwragedd a darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu hyfforddi i gynghori smygwyr a’u cyfeirio at y gwasanaethau iawn.

“Fel rhan o’n hymgyrch Rhoi’r Gorau dros Gymru byddwn ni’n gofyn i bobl wneud adduned i roi’r gorau iddi trwy quitforwales.org a rhannu eu rhesymau dros wneud er mwyn helpu i ysgogi eraill. Gwyddom fod 70% o smygwyr eisiau rhoi’r gorau iddi felly mae angen i ni ddarparu mwy o gymorth i’w helpu i wneud hynny.”

Un cwmni blaenllaw yng Nghymru sy’n mynd ati i hybu cymorth i roi’r gorau i smygu yn y gweithle yw GoCompare.

Dywedodd Kath Denton, Pennaeth Datblygu Sefydliadol GoCompare: “Gr?p rhoi’r gorau i smygu oedd un o’r mentrau iechyd a lles gwreiddiol a sefydlwyd gennym, ac rydyn ni’n dal i gydnabod yr anawsterau mae aelodau o’n staff yn eu hwynebu wrth geisio rhoi’r gorau i smygu. Er mwyn eu helpu rydyn ni’n darparu adnoddau am ddim i’n staff fel patshys, gwm, pecynnau gwybodaeth, cyfeirio a chopi am ddim o ‘Stop Smoking’ gan Allen Carr.

“Hefyd, cafodd dau aelod o’r staff (y ddau’n gyn-smygwyr) hyfforddiant ar ymyriadau byr ar gyfer rhoi’r gorau i smygu ym mis Mai 2013. Mae hyn yn golygu eu bod bellach mewn sefyllfa i allu helpu aelodau o’r staff sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu, trwy siarad gyda nhw am y gwahanol fodelau a thechnegau sydd ar gael i smygwyr a’u cyfeirio at ‘Dim Smygu Cymru’ lle bo modd. Rydyn ni hefyd yn annog cyn-smygwyr i gyfeillio gyda phobl sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi er mwyn cynyddu eu siawns o lwyddo a chynnig clust i wrando pan maen nhw ei angen mwyaf.

Rydyn ni hefyd yn cymryd rhan mewn Diwrnodau Dim Smygu Cenedlaethol ac

yn mynd ati i hybu hyn yn y cwmni.”

Dywedodd Dr Patricia Riordan, Cyfarwyddwr Iechyd a Gwella Gofal Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“’Rydym yn croesawu’r ymgyrch newydd hon gan ei bod yn cynnig cyfle arall i ‘smygwyr sydd eisiau rhoi’r gorau iddi wneud hynny hefo digon o gefnogaeth a chymorth gan wasanaethau fel Dim Smygu Cymru.

“Mae manteision bod yn ddi-fwg yn dechrau’n syth beth bynnag yw’ch oed. O fewn wythnosau mae eich anadlu a’ch cylchrediad gwaed yn gwella ac mae’r risg o ddioddef afiechyd difrifol yn lleihau.

“Mae Dim Smygu Cymru’n cynnig sesiynau am ddim i bobol ledled Cymru ac yn gallu rhoi cefnogaeth werthfawr i smygwyr sydd am roi’r gorau iddi. Mae miloedd o bobol yn cysylltu â’r gwasanaeth pob blwyddyn, a hefo cymorth Dim Smygu Cymru yr ydych bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo i roi’r gorau iddi.”

Leave a Comment