In Press Release Welsh

Mae Action on Smoking and Health Cymru wedi croesawu dechrau’r ymgynghori ar becynnau plaen ar gyfer sigaréts a thybaco. Heddiw cyhoeddodd Adran Iechyd y DU y rheoliadau drafft fydd yn arwain at gyflwyno pecynnau safonol ar draws y DU ym mis Mai 2016. Bydd y pecynnau plaen sy’n cael eu hargymell yn cynnwys rhybuddion iechyd a delweddau graffig o’r niwed sy’n cael ei achosi gan smygu.

Mewn sioe deithiol ddiweddar drefnwyd gan ASH Cymru dangoswyd enghreifftiau o’r pecynnau sigaréts sydd ar werth nawr i bobl ifanc. Ymhlith y sylwadau roedd: “Mae’n edrych fel gwm cnoi!”; “Mae’n edrych fel sebon!”; “Mae’n edrych fel tase Lego ynddo!” a “Mae nhw’n lush, fi’n mynd i ofyn i dad brynu nhw i fi!”

“Mae’n hen bryd i ni gael gwared o’r pecynnau sigaréts yma sydd wedi’u dylunio yn fwriadol i fod yn atyniadol i blant. Ry’n ni’n gwybod bod 14,500 o blant 11-15 oed yng Nghymru yn dechrau smygu bob blwyddyn. Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein plant rhag y niwed sy’n cael ei achosi gan dybaco.”

Elen de Lacy, Chief Executive of ASH Wales

Roedd arolwg gan YouGov i ASH Cymru ym mis Mawrth 2014 yn awgrymu bod 66% o oedolion Cymru yn cefnogi neu yn cefnogi’n gryf pecynnau plaen.

Leave a Comment