Mae bron hanner y smygwyr yng Nghymru wedi cael cynnig prynu tybaco anghyfreithlon ac mae 15% o’r holl dybaco a werthir yng Nghymru’n anghyfreithlon, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan ASH Cymru. Mae gan Gymru un o’r marchnadoedd mwyaf mewn tybaco anghyfreithlon o’i chymharu â phob un o ranbarthau Lloegr.
Mae ASH Cymru wedi comisiynu’r arolwg cyntaf erioed ar raddfa a maint y farchnad tybaco anghyfreithlon yng Nghymru. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod chwarter y smygwyr yng Nghymru’n prynu tybaco anghyfreithlon a bod bron 60% ohonynt yn ei brynu o leiaf unwaith y mis.
Mae tybaco anghyfreithlon yn cynnwys brandiau tramor sy’n cael eu gwneud yn arbennig ar gyfer y farchnad ddu; sigaréts a thybaco sy’n cael eu smyglo o wledydd â threthi is, a sigaréts ffug. Yn aml mae’n cael ei werthu o dan y cownter mewn siopau a bariau, mewn tai preifat ac mewn arwerthiannau cist car. Mae’r sigaréts sy’n cael eu gwerthu ar y farchnad ddu yn llawer rhatach na sigaréts cyfreithlon, gan ei wneud yn haws i blant ddechrau smygu. Mae’r bobl sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon yn aml yn gysylltiedig â gwerthu nwyddau anghyfreithlon eraill fel cyffuriau ac alcohol, felly mae prynu tybaco anghyfreithlon yn helpu i gefnogi trosedd cyfundrefnol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, “Smygu yw un o brif achosion marwolaethau cynnar ac rydyn ni’n rhoi ar waith amrywiaeth gynhwysfawr o fesurau i leihau’r niwed mae tybaco’n ei achosi. Mae’r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon yn tanseilio ein hymdrechion i reoli’r defnydd o dybaco ac i helpu pobl i roi’r gorau i smygu.”