In Press Release

Dywedodd Elen de Lacy, Prif Weithredwr ASH Cymru:

“Yng Nghymru, mae mwy na 5000 o bobl yn marw o glefydau sy’n gysylltiedig â smygu bob blwyddyn ac mae llond ystafell ddosbarth o blant yn dechrau smygu bob dydd. Rydyn ni’n falch bod Bil Iechyd y Cyhoedd yn cynnwys cynnig i gael cofrestr o unrhyw un sy’n gwerthu tybaco. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i fynd i’r afael â gwerthu i bobl dan oed a gwerthu tybaco anghyfreithlon.”

“Fodd bynnag rydyn ni’n siomedig nad yw’r Bil yn cynnwys gwaharddiad ar smygu ar diroedd ysbytai. Rydyn ni’n teimlo y collwyd cyfle yma i helpu byrddau iechyd lleol i frwydro yn erbyn y broblem hon.”

“Dylai gwahardd defnyddio sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus fod yn benderfyniad wedi’i seilio ar dystiolaeth. Rydyn ni’n pwyso ar Aelodau Cynulliad a Gweinidogion sy’n edrych ar y cynnig hwn i alw ar arbenigwyr ac academyddion i gyflwyno’r ymchwil ddiweddaraf. Mae sigaréts electronig yn bethau cymharol newydd ac mae angen mwy o waith ar frys er mwyn deall yn llawn eu heffeithiau hirdymor ar iechyd.”

“Mynd i’r afael â smygu yw’r broblem fwyaf a wynebwn yng Nghymru ym maes iechyd y cyhoedd, yn enwedig ymysg pobl ifanc, a dylai barhau i gael y flaenoriaeth uchaf gan wleidyddion.”

Leave a Comment