In Press Release Welsh

Gwnaeth y cystadleuydd Britain’s Got Talent ac artist cymraeg Nathan Wyburn creu hunan-bortread allan o hen bo

nion sigarets wedi casgli gan disgyblion o Dde Cymru.

Roedd Nathan, 26, o Lyn Ebwy yn enill enwogrwydd trwy cyrraedd lled y rownd terfynol yn Britan’s Got Talent lle creuodd portread o farnwr a digrifwr Michael McIntyre trwy ddefnyddio Marmite ar dost.

Ers hynny, mae e wedi creu nifer o gelf yn defnyddio dulliau anghonfensiynol gan gynnwys llun o Margaret Thatcher allan o glo a sêr rygbi Adam Jones efo mwd.

Wedi ei creu i ddathlu pen-blwydd yr elusen rheolaeth tybaco ASH Cymru, fe wnaeth deunydd anarferol y portread dod o hen bonion sigarets cafodd eu casglu gan ddisgyblion Ysgol y Ddraig, Llanilltud Fawr. O fewn un awr o godi sbwriel, casglodd y plant dros 200 o fonion budr.

Mae gwaith Nathan ar gyfer ASH Cymru yn esthetaidd gwahanol iawn o’r bortreadau blaenorol mae e wedi cyflwyno a cymerodd 6 awr i greu.

“Penderfynais i helpu cefnogi ASH Cymru oherwydd rwy’n credu’n gryf dylai unrhyw ardal lle mae plant yn chwarae fod yn ddi-fwg. Os yw e’n traethau, meysydd chwarae neu yn fwy pwysig, gatiau ysgol.”

“I ddweud y gwir roedd y nifer o fonion sigarets gwnaeth y plant casglu ar draeth Llanilltud yn arswydus ac yn gadarnhau fy nghefnogaeth a theimladau. Mae gen i chwaer ifanc a nithoedd a neiaint yn fy nheulu a dwi ddim moyn nhw yn tyfu lan yn amgylchedd mor afiach.”

Mewn gyfeirnod i’w gwaith, fe parhaodd, “Rwy’n gwybod ei fod e’n anneniadol, mewn gwironedd mae’n gross, wnes i obeithio am hyn, mae’n angenrheidiol.”

Dywedodd Prif Gweithredwr ASH Cymru, Suzanne Cass, “Mae’n bendigedig i allu sefyll yma heddiw i ddathlu llwyddiannau coffaol ASH dros y 40 blynnydd diwethaf. Wedi diolch i’r sefydliad, mae mwy o Gymry yn iachach, hapus ac yn byw hirach heb y niwed drasig ac yn aml yn drychinebus achoswyd i deuluoedd gan ysmygu. Byddai’n testament i’w ein gwaith os nad yw ASH Cymru yn fodoli ar ôl 40 blwyddyn arall!”

“Mae’r celf erchyll Nathan yn dangos effaith wirioneddol mae ysmygu yn achosi, nid yn unid i’n amgylcheddau ond i ni fel unigolion hefyd. Cafodd pob un o’r bonion yna eu casglu gan plant o’u traeth lleol – lle ddylen nhw teimlo’n rhydd i fwynhau eu hun i ffwrdd o deunyddau sydd wedi heintio gan sigarets a mwg gwenwynig.”

Leave a Comment