In Press Release Welsh

Lansiwyd gwaharddiad ar smygu wrth gatiau ysgolion ledled Castell-nedd Port Talbot, gan eu cyhoeddi’n fannau di-sigarét.

Rhoddodd Ysgol Gynradd Tai’r Gwaith gychwyn ar y fenter iechyd heddiw (dydd Gwener, 16 Mehefin) a bydd pob ysgol gynradd yn y sir yn gwneud yr un peth. Gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, Castell-nedd Port Talbot yw’r 11eg awdurdod lleol yng Nghymru i ymuno ag ymgyrch ‘Gatiau Ysgol Di-fwg’ sy’n cael ei rhedeg gan yr elusen rheoli tybaco ASH Cymru.

School Gates

Mae ymchwil yn dangos bod gweld pobl yn smygu o’u cwmpas yn cael dylanwad mawr ar bobl ifanc – mae’r rheiny sydd â rhiant sy’n smygu 70% yn fwy tebygol o ddechrau smygu.

Mae mannau di-fwg hefyd yn amddiffyn rhag mwg ail-law ac ar yr un pryd yn ‘dadnormaleiddio’ yr arfer marwol. Mae bron hanner y smygwyr hirdymor yn dechrau smygu cyn gadael yr ysgol uwchradd ac ymysg plant sy’n rhoi cynnig ar smygu mae oddeutu traean yn troi’n smygwyr rheolaidd o fewn 3 blynedd.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae ASH (Action on Smoking and Health) Cymru wedi creu pecyn cymorth i alluogi awdurdodau lleol ac ysgolion eraill – gan gynnwys ysgolion cyfun – i gymryd rhan yn y cynllun.

Meddai Prif Weithredwr ASH Cymru, Suzanne Cass: “Mae smygu mewn mannau sydd wedi’u creu’n benodol i’n pobl ifanc yn rhoi iddyn nhw neges hollol anghywir bod tybaco’n rhan ddiniwed o fywyd pob dydd yn hytrach na chyffur caethiwus a marwol. Mae’n hanfodol inni osod esiamplau cadarnhaol lle bynnag y gallwn – dydyn ni ddim eisiau i’n cenhedlaeth nesaf fod yn gwsmeriaid newydd i’r diwydiant tybaco.”

Aeth Suzanne ymlaen, “Rydyn ni’n credu bod gan blant a phobl ifanc hawl i gael addysg, i chwarae ac i gyfarfod â’u ffrindiau mewn amgylchedd glân a di-fwg. Mae gwahardd smygu ar feysydd chwarae ac yn awr wrth gatiau ysgol yn gam enfawr i’r cyfeiriad iawn.”

Dywedodd Liz Newbury-Davies, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus yn Nhîm Iechyd Cyhoeddus Abertawe Bro Morgannwg: “Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn ynghylch lansio menter gatiau ysgol di-fwg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae normaleiddio ymddygiad iach yn allweddol wrth helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n plant a phobl ifanc.

“Bydd gatiau ysgol di-fwg nid yn unig o fudd i iechyd poblogaeth yr ysgol, byddan nhw hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Roeddem wrth ein bodd i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar yr ymgyrch iechyd cyhoeddus gyffrous hon.”

Yn bresennol yn y lansiad roedd Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Rees; aelodau o dîm ‘Y Gweilch yn y Gymuned (a arweiniodd ddisgyblion mewn gweithgareddau corfforol hwyliog ar ôl y lansiad); a chynrychiolwyr o’r gwasanaeth newydd rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru, ‘Helpa Fi i Stopio’.

Leave a Comment