In Press Release Welsh

Mae cynllun gweithredu i fynd i’r afael â chyfraddau smygu ar draws Cymru wedi cael ei lansio heddiw (Dydd Mawrth, 19 Medi) yn dilyn gwaith partneriaethol gan sefydliadau iechyd blaenllaw a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cynllun Cyflawni Cymru ar Reoli Tybaco 2017 – 2020 yn nodi nifer o fesurau sydd â’r nod o leihau cyfraddau smygu i lefel is na’r 19% gyfredol, atal pobl ifanc rhag dechrau’r arfer angheuol yn y lle cyntaf, a gwella canlyniadau iechyd i’n holl gymunedau.

Cymraeg

Gosododd y Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco gwreiddiol – a grëwyd yn 2012 – darged y byddai ond 16% o boblogaeth Cymru’n dal i smygu erbyn 2020. Rhan o’r gwaith o lunio’r cynllun newydd ar gyfer 2017 – 2020 oedd gweld a oedd modd o hyd cyrraedd y targed uchelgeisiol hwn, sy’n bosibl yn nhyb Llywodraeth Cymru. Cyrhaeddwyd targed 2016 yn gynnar, wrth gofnodi cyfradd smygu o 19% ymysg oedolion yn 2015.

Mae rhyw 5,450 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru’n cael eu hachosi gan smygu ac amcangyfrifir mai £302 miliwn bob blwyddyn yw’r gost i GIG Cymru. Tybaco yw prif achos anghydraddoldebau iechyd o hyd; 9% yw’r gyfradd smygu ymysg y bobl ‘leiaf difreintiedig’, o gymharu â 28% ymysg y rhai ‘mwyaf difreintiedig’ – sef 19% o wahaniaeth.

Bydd deddfwriaeth newydd yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn chwarae rhan allweddol yn y cynllun newydd ac mewn dadnormaleiddio smygu ac amddiffyn pobl nad ydyn nhw’n smygu rhag dod i gysylltiad â mwg ail-law. At hynny, bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn sicrhau mai cyfyngedig fydd effaith tybaco ar unigolion, yn nawr ac yn y dyfodol, ar draws cymunedau Cymru.

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus, Rebecca Evans: “Fel rhan o’n cynllun ar gyfer Cymru iachach a mwy egnïol, rydyn ni eisiau cynorthwyo cynifer o bobl ag sy’n bosibl i roi’r gorau i smygu.

“Nod y Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco 2017-2020 yw gwneud gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu a ddarperir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fwy hygyrch. Bydd lleihau’r gyfradd smygu yn ei dro yn lleihau nifer y bobl sy’n dod i gysylltiad â mwg ail-law.

“Dwi’n falch ein bod ni’n arwain y ffordd wrth amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol trwy Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, sy’n cynnwys gwaharddiad ar smygu ar feysydd chwarae a thiroedd ysgolion. Er mwyn parhau â’r newid diwylliant hynod mewn perthynas â smygu rydyn ni wedi’i weld yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, hoffwn ddweud wrth bawb ‘Dewiswch fod yn Ddi-fwg’.”

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: “Roedd 2017 yn nodi 10 mlynedd ers cyflwyno’r gyfraith yn gwahardd smygu mewn mannau caeedig yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweld cefnogaeth y cyhoedd i fannau di-fwg gynyddu’n sylweddol yn ystod y degawd hwnnw. Mae mwy na 70% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi’r gwaharddiad ar smygu ar diroedd ysbytai ac mae mwy na 60% yn dweud y dylid ei wahardd mewn mannau fel parciau a thraethau.

“Bydd y Cynllun yn pwysleisio ymhellach y ffaith nad yw smygu’n weithgarwch normal ac iach i bobl ifanc ddechrau arno a bydd yn mynd i’r afael â’r angen i gynorthwyo pobl sydd eisoes yn smygu i roi’r gorau iddi, gyda gwasanaethau cynhwysol mae’n hawdd cael gafael arnyn nhw.

“Rydyn ni’n diolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth ac am wahodd ASH Cymru i gynrychioli’r trydydd sector er mwyn adnewyddu’r Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco 2017 i 2020.”

Mae Cynllun Cyflawni Cymru ar Reoli Tybaco 2017 – 2020 wedi cael ei greu trwy weithio partneriaethol rhwng Llywodraeth Cymru, ASH Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol blaenllaw eraill.

 

Leave a Comment