Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Cancer Research UK (CRUK) yn dangos bod mwy na 7,000 o achosion o ganser pob blwyddyn yng Nghymru’n ataliadwy, sef 140 yr wythnos.
Smygu sigaréts, yfed alcohol, pwysau a defnyddio gwelyau haul yw prif achosion mathau o ganser a fyddai’n cael eu hosgoi fel arall – sef bron pedwar ym mhob deg diagnosis, medd CRUK.
Smygu oedd achos 15% o’r achosion osgoadwy hyn, y ganran uchaf o’r holl ddewisiadau o ran ffordd o fyw.
Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr yr elusen rheoli tybaco ASH Cymru: “Mae’n ffigwr syfrdanol bod 38% o bob diagnosis o ganser yng Nghymru’n ganlyniad i ffactor ffordd o fyw, fel smygu. Mae ystadegau Cancer Research UK yn dangos bod gennym ni ffordd bell i fynd o hyd yma yng Nghymru i atal mwy o bobl rhag bod yn rhan o’r ystadegau. I wneud hyn mae arnom ni angen polisïau cryf, fel mannau di-fwg i bawb eu mwynhau, ac ymgyrchoedd cenedlaethol i dynnu sylw at y niwed mae tybaco’n ei wneud.
“Gwyddom fod smygu’n lladd bron hanner y smygwyr hirdymor, ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw eisiau rhoi’r gorau i’r arfer marwol hwn. Mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu – mae’r GIG yng Nghymru’n cynnig gwasanaeth am ddim ar gyfer rhoi’r gorau i smygu o’r enw Helpa Fi i Stopio, mae modd cysylltu ag ef gydag un neges destun neu alwad ffôn.”
I gael cyngor lleol, wedi’i deilwra am ddimwww.helpmequit.wales ewch i www.helpmequit.wales, tecstiwch ‘HMQ’ i 80818 neu ffoniwch 08000 852 219.