Mae’r unig wasanaeth rhoi’r gorau i smygu penodol i bobl ifanc yng Nghymru’n dod i ben heddiw (dydd Iau, 29 Mawrth) ar ôl pum mlynedd o roi cymorth i filoedd o bobl yn eu harddegau.
Bydd prosiect ASH Cymru, “The Filter”, sy’n mynd i’r afael â smygu ymysg pobl yn eu harddegau mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd, lle mae nifer y smygwyr ar ei huchaf, yn dod i ben oherwydd diffyg arian.
Sefydlwyd y prosiect yn 2013 gydag arian gan y Gronfa Loteri Fawr, ac oherwydd ei lwyddiant cafodd ei ariannu wedi hynny gan Lywodraeth Cymru am 2 flynedd arall.
Yn y pum mlynedd ddiwethaf mae cyfraddau smygu ymysg pobl 15 i 16 oed yng Nghymru wedi gostwng o 13.5% i 8.5%. Serch hynny, bob dydd yng Nghymru mae llond ystafell ddosbarth o blant yn dechrau smygu o hyd.
Mae prosiect The Filter wedi ymgysylltu â 12,500 o bobl ifanc mewn 250 o ddigwyddiadau ac wedi darparu cannoedd o weithdai y tu allan i’r ysgol. At hynny, mae 800 o weithwyr ieuenctid proffesiynol wedi cael eu hyfforddi i addysgu eraill am yr arfer marwol.
Yng ngweithdy mwyaf poblogaidd The Filter, Commit to Quit, roedd pobl ifanc yn derbyn her naill ai i smygu llai neu roi’r gorau iddi’n gyfan gwbl o fewn chwe wythnos. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig gweithiodd y tîm gyda mwy na 40 o ddarpariaethau ieuenctid a helpodd 120 o bobl yn eu harddegau i roi’r gorau i smygu.
Gweithiodd tîm Commit to Quit gyda mwy na 650 o smygwyr ifanc o bob rhan o Gymru. O’r rheiny a bennodd ddyddiad i roi’r gorau i smygu, llwyddodd 66% i roi’r gorau iddi’n llwyr – sy’n cymharu â 42% sy’n rhoi’r gorau iddi mewn gwasanaethau i oedolion.
Roedd Kathleen Davies, a gymerodd ran yn rhaglen Commit to Quit pan oedd hi’n 17 oed, wedi dechrau smygu pan oedd hi’n ddim ond 11 oed. Meddai: “Bu farw fy nhad-cu o ganser y llwnc ar ôl smygu ac mae fy nhad yn sâl iawn ar ôl smygu am 40 mlynedd. Wnes i addo i fy nhad y byddwn i’n rhoi’r gorau iddi a dyna fe, dwi’n gwneud hynny nawr.”
Cafodd lefelau carbon monocsid (mwg) Kathleen eu monitro bob wythnos er mwyn gwirio ei chynnydd. Yn yr wythnos gyntaf cafodd hi sgôr o 29 ar y monitor – darlleniad anhygoel o uchel ac un smygwr trwm. Ond erbyn y drydedd wythnos roedd gan Kathleen sgôr o 2, sef sgôr rhywun nad ydi’n smygu.
Roedd Cheyane, 15 oed o Ferthyr Tudful, yn barod iawn i ddiolch i dîm The Filter am y rhan yr oedden nhw wedi’i chwarae wrth ei helpu i roi’r gorau iddi. “Dechreuais i smygu pan oeddwn i’n 13 oed, roedd fy ffrindiau i gyd yn gwneud a wnes i ddechrau oherwydd pwysau gan gyfoedion. Rhois i’r gorau i smygu trwy ddefnyddio The Filter a doedd hi ddim yn anodd gyda’u help nhw – roedden nhw’n gefnogol iawn … wnaethon nhw fy ngwthio a rhoeson nhw’r gefnogaeth roeddwn i ei hangen. Ar y dechrau roedd fy CO yn 15 ac aeth i lawr i 4!”
Mae’n annhebygol y bydd y targed cenedlaethol i leihau cyfradd smygu ymysg oedolion i 16% o’r boblogaeth erbyn 2020 yn cael ei gyrraedd oni chaiff camau ychwanegol eu cymryd ac os bydd y tueddiadau presennol yn parhau.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf o Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, caiff y targed o 16% ei gyrraedd yn 2025 yn lle hynny.
Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: “Gan mai hwn yw’r unig wasanaeth penodol yng Nghymru sy’n cynorthwyo pobl ifanc i roi’r gorau i smygu rydym yn drist i weld y prosiect, sydd wedi newid bywydau, yn dod i ben. Mae ein tîm wedi bod yn gweithio yn yr ardaloedd hynny lle mae’r angen mwyaf am gymorth.
“Rhaid inni beidio ag anghofio bod cyfraddau smygu ymysg yr oedolion ‘lleiaf difreintiedig’ yng Nghymru yn 9%, o gymharu â 28% ymysg y rhai ‘mwyaf difreintiedig’ – sef gwahaniaeth o 19%. Mae’r bobl ifanc rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nhw o’r ardaloedd ‘llai cefnog’ fel arfer. Rhaid i’r bobl ifanc hyn beidio â chael eu gadael ar ôl, rhaid bod ymyriadau wedi’u teilwra i’w tywys i ffwrdd o dybaco.”
“Yr hyn sydd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y rhaglen hon yw’r dull anffurfiol; ymgysylltu â phobl ifanc yn y mannau lle maen nhw’n cyfarfod yn rheolaidd fel clybiau ieuenctid a chanolfannau hyfforddi.”
Ni fydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol The Filter yn weithredol mwyach, ond bydd ei wefan thefilterwales.org yn aros. Ceir arni wybodaeth am amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â smygu, fel mwg ail-law a smygu o gwmpas anifeiliaid anwes.
Mae’r GIG yn cynnig gwasanaeth am ddim ar gyfer rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru o’r enw Helpa Fi i Stopio. Mae smygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o aros yn ddi-fwg gyda chymorth nag os ydynt yn ceisio rhoi’r gorau iddi ar eu pen eu hunain. I gael cyngor lleol, wedi’i deilwra am ddim ewch i www.helpmequit.wales, tecstiwch ‘HMQ’ i 80818 neu ffoniwch 08000 852 219.