In Press Release Welsh

Mae cynllun iechyd anadlol newydd a lansiwyd heddiw gan Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, wedi cael ei groesawu gan yr elusen rheoli tybaco ASH Cymru.

Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru’n nodi gwaith i wella gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu a chymorth i wella’r ffordd y rhoddir diagnosis o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, a elwir yn aml COPD. Mae hwn yn glefyd sy’n byrhau bywyd ac mae 90% o’r achosion ohono wedi’u hachosi gan smygu. Amcangyfrifir bod yna 57,000 o bobl yng Nghymru sydd â’r cyflwr, nad yw’n datblygu fel arfer nes bod rhywun yn cyrraedd ei 40au neu ei 50au.

Gall nifer o gyflyrau eraill yr ysgyfaint gael eu hachosi neu eu gwaethygu gan smygu – asthma, canser a heintiau parhaol y frest – ac mae cymorth i’r rhain hefyd wedi’i gynnwys yn y cynllun, a lansiwyd heddiw yn Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Wales Cymru: “Amcangyfrifir bod 57,000 o bobl yn dioddef o COPD yng Nghymru, ac felly mae’r cynllun hwn yn gam enfawr ymlaen i roi cymorth gwell i’r rheiny sydd â’r clefyd hwn ac i helpu eraill i gael diagnosis amserol, fel y gallan nhw gael y driniaeth iawn mae arnyn nhw ei hangen ac yn gynt.

“Y peth gorau posibl i ysgyfaint unrhyw un yw rhoi’r gorau i smygu neu, i rywun nad yw’n smygu, aros ymhell oddi wrth bobl eraill sy’n smygu yn y cyffiniau. Dydi ddim yn hawdd rhoi’r gorau i smygu, ond mae cymorth a chyngor am ddim ar gael, gan gynnwys gwasanaeth Helpa Fi i Stopio yng Nghymru.”

Mae gwasanaeth a gwefan Helpa Fi i Stopio yn cynnig cyngor wedi’i deilwra’n benodol i anghenion pobl sydd eisiau rhoi’r gorau iddi. I gael gwybod mwy ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i helpmequit.wales

Healthcare

Leave a Comment