In Press Release Welsh

Mae ASH Cymru wedi mynegi siom enfawr bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu peidio â mynd ar ôl pecynnau safonol ar gyfer tybaco yn ei rhaglen ddeddfwriaethol.

Mae pecynnau safonol, sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno yn Awstralia, yn gwneud i sigaréts edrych yn llai deniadol, yn gwneud rhybuddion iechyd yn fwy effeithiol ac yn dileu’r cysylltiad cadarnhaol rhwng marchnata sgleiniog a chynnyrch marwol.

Gan ymateb i Araith y Frenhines ar 8fed Mai, dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, Elen de Lacy:

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi colli cyfle hanfodol i roi terfyn ar ffyrdd o farchnata tybaco sy’n anelu at ein pobl ifanc.
“Mae digonedd o dystiolaeth fod pecynnau sgleiniog yn dylanwadu ar blant. Os nad yw’r cwmnïau tybaco’n meddwl hynny, pam maen nhw’n gwario miliynau o bunnoedd ar y math hwn o farchnata bob blwyddyn?

“Mae pecynnau safonol wedi cael eu cyflwyno’n llwyddiannus yn Awstralia a chânt eu cyflwyno cyn bo hir yn Seland Newydd ac Iwerddon. Mae’n drist bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu ochri gyda’r diwydiant tybaco yn hytrach na chenedlaethau plant y dyfodol.”

I gael mwy o wybodaeth am y ddadl dros becynnau safonol cliciwch yma.

Leave a Comment