In Press Release Welsh
swansea-school-gates

Ar 3ydd Tachwedd fe wnaeth Cyngor Abertawe lawnsio gwaharddiad ysmygu wrth gatiau ysgol, yn cwmpasu pob ysgol gynradd yn yr ardal.

Ysgol Gynradd Sea View yw’r cyntaf i ddatgan fod ei gatiau ysgol yn ardal di-fwg fel rhan o’r ymgyrch i wneud Abertawe yn ddinas fwy iach i bawb. Bydd pob ysgol gynradd ar draws y sir yn dilyn yr esiampl yn gweithredu’r gwaharddiad gwirfoddol ym mis Tachwedd.

Mae ymchwil yn dangos fod pobl ifanc yn cael eu ddylanwadu’n gryf gan eraill yn smygu o’u hamgylch – yr rhain efo rhiant sy’n smygu yn 70% mwy tebygol o gymryd lan yr arfer a dau trydedd o oedolion sy’n ysmygu wedi dechrau smygu cyn gadael eu harddegau.

I gyd-fynd efo lawns Abertawe, mae’r grŵp ymgyrch rheolaeth tybaco ASH Cymru wedi creu pecyn cymorth a chystadleuaeth ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion ar draws Cymru sydd moyn cymryd rhan yn y menter iechyd.

Mae’r pecyn cymorth yn darparu arweiniant ar gyfer ysgolion er mwyn alluogi nhw i wneud eu gatiau ysgol yn ddi-fwg. Mae ardaloedd di-fwg yn amddiffyn ysgyfaint ifanc plant, sydd dal yn datblygu, rhag y niwed o fwg ail-law tra dad-normaleiddio yr arfer marwol yma. Fe all yr ardaloedd di-fwg hefyd gwella lefelau sbwriel a’r amgylchedd lleol.

Mae’rt cystadleuaeth, sydd ar agor i bob ysgol gynradd yng Nghymru,  yn gofyn disgyblion i greu cerdd neu poster sy’n adlewyrchu pam mae gatiau ysgol di-fwg yn bwysig iddyn nhw. Ceir cofnodion gorau eu cyhoeddi yn llyfr mini o gerddi.

swansea-school-gates

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Gweithredwr ASH Cymru, “Mae ysmygu yn ardaloedd sydd wedi cael eu ddylunio yn pwrpasol ar gyfer plant yn anfon y neges hollol anghywir fod tybaco yn rhan ddiniwed o fywyd bob dydd a nid cyffur marwol a chaethiwus. Mae’n hanfodol ein fod ni’n gosod esiampl cadarnhaol ble bynnag sy’n posib – nid ydyn ni’n eisiau’r genhedlaeth nesaf i droi mewn i gwsmeriaid newydd y diwydiant tybaco.”

Parhaodd Suzanne, “Credon ni fod gan blant yr hawl i ddewis cael addysg, chwarae a chwrdd â ffrindiau yn amgylchedd glan, di-fwg. Trwy gwahardd smygu yn meysydd chwarae a nawr wrth gatiau ysgol rydyn ni’n cymryd cam enfawr yn y cyfeiriad cywir.”

Leave a Comment