Cafodd pobl ifanc at ganolfan sgiliau yng Nghaerdydd eu ymuno gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i nodi llwyddiant y gwasanaeth ieuenctid unigryw ASH Cymru i helpu pobl ifanc i roi’r gorau i smygu.
Mae ‘Commit to Quit’ yn cwrs 8-wythnos sydd wedi helpu canoedd o bobl ifanc ‘anodd eu gyrraedd’, i roi’r gorau i smygu. Wnaeth y Gweinidog ymweld â’r recriwtiaid awyddus diweddaraf at ganolfan Hyfforddiant a Sgiliau Itec yng Nghaerdydd sydd yn trio rhoi’r gorau iddi.
Y flwyddyn hon wnaeth 300 o bobl ifanc o dros 30 o fanau ar draws Cymru optio i gymryd rhan yn y rhaglen â ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant enfawr efo dros 50% o smygwyr ifanc sydd wedi cwblhau’r cwrs yn lwyddo rhoi’r gorau i’r arfer marwol.
Mae cyfraddau smygu o fewn pobl yn eu harddegau wedi cwympo i’w pwynt isaf efo 8% o fechgyn a 9% o ferched 15 a 16 mlwydd oed yn adrodd eu fod nhw’n smygu’n aml. Ar y llaw arall, yn ardaloedd sy’n cael eu hystyried ‘fwyaf difreintiedig’ gwelon ni cyfraddau ystyfnig yn aros yn statig. Smygu yw’r gyrrwr mwyaf o anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, wrth i smygwyr ifanc dod yn oedolion caeth.
Mae cyfraddau smygu yn yr ardaloedd fwyaf ‘difreintiedig’ o Gymru yn fwy nag yn yr ardaloedd cefnog – 29% o’r nhw sy’n cael eu ystyried yn ‘fwyaf difreintiedig’ yn smygu, wedi cymharu â 11% o’r ‘lleiaf difreintiedig’. Er engraifft, mae cyfraddau smygu mor isel â 16% yn Sir Benfro a Cheredigion tra bod 26% o drigolion Blaenau Gwent yn smygu.
- Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Rebecca Evans, “Rydyn ni wedi gweithio yn arbennig o dda i daclo smygu yma yng Nghymru. Mae cyfraddau smygu wedi cyrraedd lefelau isaf erioed – ac yn bwysicach – llai o bobl ifanc yn cymryd lan yr arfer.“Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ‘Commit to Quit’. Mae’r prosiect yn helpu cannoedd o bobl ifanc i roi’r gorau i smygu, yn cael effaith positif ar eu iechyd yn y dyfodol ac yn eu gosod nhw mewn sefyllfa dda ar gyfer gweddill eu bywydau.”Gwnaeth Prif Weithredwr ASH Cymru, Suzanne Cass, dweud: “Mae ‘Commit to Quit’ yn prosiect llwyddiannus ac atyniadol efo’r stategau yn dangos hyn yn glir.”“Mae smygu yn caethiwed plentyndod – mae dau trydedd o smygwyr wedi cymryd lan yr arfer cyn troi 18, a bron 40% barod yn smygu’n aml cyn 16. Os ydyn ni’n gallu stopio pobl ifanc rhag dechrau smygu cyn cyrraedd oedolaeth rydyn ni’n achub nhw rhag oes o afiechyd, salwch a siawns uchel o farwolaeth cynamserol wedi achosi gan smygu.”“Mae hyn yn prosiect gall Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog Iechyd bod yn falch dros ben ohono. Mae buddsoddiant ac ymrwymiad y llywodraeth wedi alluogi ni i gynnig newidiadau ffordd o fyw anghenrheidiol i’r pobl ifanc. Mae’r smygwyr ifanc yma yn eisiau ac yn angen ein help a rydym yn falch iawn y gallwn ni dangos beth mae’r pobl ifanc yma yn gallu cyflawni.”
Mae cyllid ar gyfer y rhaglen yn rhedeg am flwyddyn ychwanegol lle mae’n obaith ASH Cymru i gefnogi cannoedd mwy o smygwyr ifanc i roi’r gorau iddi. Mae’r prosiect ‘Commit to Quit’ yn gwasanaeth rhad ac am ddim ac yn ar gael i leoliadau ieuenctid efo grŵpiau o bobl ifanc sydd moyn rhoi’r gorau i smygu.
- Darganfod mwy at www.thefilterwales.org