In Press Release Welsh

Ni fydd sigaréts wedi’u brandio a phecynnau o ddeg ar werth o’r penwythnos hwn (dydd Sadwrn 20 Mai 2017) ymlaen, wrth i gyfreithiau newydd yn rheoli gwedd a maint cynhyrchion tybaco gael eu gorfodi’n llawn.

website-4

Dim ond pecynnau ‘plaen’, pecynnau o 20 sigarét a bagiau 30 gram o dybaco rholio y gellir eu gwerthu wrth i waharddiadau llawn ar becynnau wedi’u brandio deniadol a phecynnau bach ddod i rym ledled y Deyrnas Unedig.

Ym mis Mai 2016 daeth yn gyfraith i bob cynnyrch tybaco gael ei werthu mewn pecyn brown ‘safonol’. Rhoddwyd cyfnod trosiannol o flwyddyn i fanwerthwyr werthu stoc nad oedd yn cydymffurfio â’r rheolau newydd ond daeth y cyfnod hwn i ben ar ddydd Gwener (19 Mai 2017).

Mae pecynnau plaen yn cael gwared ar y ffordd olaf oedd gan y diwydiant tybaco o hysbysebu ac yn gwneud smygu’n llai deniadol i blant a phobl ifanc. Mae pecynnau mwy yn gwneud smygu’n ddrutach ac mae’r safoni hwn yn golygu y bydd y pecyn rhataf yn costio  £8.82 – gan eu gwneud yn llai fforddiadwy i bobl ifanc.

Erbyn hyn mae’n rhaid i bob pecyn fod ‘y lliw hyllaf yn y byd’, a elwir opaque couché, ac mae’n rhaid i 65% o bob cynnyrch gael ei gorchuddio â rhybuddion iechyd ar ffurf lluniau a geiriau. Hefyd, ni chaniateir unrhyw frandio ar wahân i enw’r cynnyrch mewn ffont safonol ac ni chaniateir unrhyw nodau masnach, logos, cynlluniau lliw neu graffigwaith arall.

Mae ymchwil o Awstralia, lle rhoddwyd yr un pecynnau plaen ar waith yn 2012, wedi dangos bod defnyddwyr erbyn hyn yn credu bod eu sigaréts â blas gwaeth ac o ansawdd gwaeth, a’u bod yn fwy tebygol o ofyn am help i roi’r gorau i smygu’n gyfan gwbl.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr y grŵp ymgyrchu ar reoli tybaco, ASH Cymru: “Mae smygwyr presennol yn gwybod pa frand maen nhw’n smygu. Yr unig reswm dros roi golwg deniadol ar sigaréts yw er mwyn apelio at smygwyr ifanc newydd. Pobl ifanc yw cynulleidfa darged y diwydiant tybaco – y genhedlaeth nesaf o smygwyr. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i’w hatal rhag mynd yn gaeth i smygu’n gorfod bod yn beth da.

“Mae’r pecynnau safonol hyn yn bwysig iawn – mae tybaco yn achosi canser ac yn lladd hanner yr holl ddefnyddwyr hirdymor. Mae’n gynnyrch “hyll” sy’n haeddu cael ei werthu mewn pecynnau hyll.”

Dangosodd tystiolaeth o Awstralia hefyd ostyngiad mewn smygu o 0.5% hyd at flwyddyn ar ôl i’r polisi gael ei gyflwyno, sef 100,000 o bobl nad ydyn nhw’n smygu mwyach, medd Llywodraeth Awstralia. Mae’n priodoli’r gostyngiad yn benodol i becynnau plaen ar ôl cymryd i ystyriaeth y gostyngiad parhaus yn nifer y smygwyr o ganlyniad i fesurau rheoli tybaco eraill.

Leave a Comment