Mae pecynnau sigarets sydd wedi’u dylunio efo’r lliw fywaf hyll yn byd a lluniau pwerus wedi dechrau cyrraedd silffoedd dros y DU, wyth mis ar ôl i ddeddfwriaeth newydd cael ei cyflwyno.
Ym mis Mai eleni fe daeth yn gyfreithlon i gynnyrch tybaco – gan gynnwys bocses sigarets a chodenni tybaco – cael eu gwerthu o fewn pecynnau brown, ‘safonol’. Wrth i siopau gwerthu trwy eu hen stoc lliwgar ceir dyluniadau salw eu gwerthu i gwsmeriaid.
Mae pecynnau “plaen” wedi orchuddio efo’r “lliw fwyaf hyll yn y byd” sy’n cael ei adnabod fel opaque couché a mae rhaid i 65% o bob pecyn cael ei gorchuddio gan rybuddion iechyd darluniadol ac ysgrifenedig. Yn ychwanegol i hyn, does dim brandio yn cael ei canitau ar y pecyn heb law am enw’r cynnyrch yn ffont safonedig, efo logos, cynlluniau lliw, nodau masnach a graffigwaith eraill wedi’u gwahardd i gyd.
Prif pwrpas o becynnau plaen yw i wneud smygu yn arfer llai apelgar i blant a phobl ifanc. Pecynnu oedd un o’r ffurfiau olaf i’r diwydiant tybaco hysbysebu eu cynnyrch caethyddol, sy’n achosi cancr i bobl ifanc.
Awgrymwyd ymchwil o Awstralia, a wnaeth cyflwyno’r un pecynnau plaen yn 2012, ers i’r newidiadau dyluniadol cymryd lle fe canfuasodd defnyddwyr fod eu sigarets yn flasu’n waeth, dangos ansawdd gostyngol a fyddwn yn fwy tebygol o ofyn am gymorth i roi’r gorau iddi.
Brwydrodd y cwmnïau tybaco yn erbyn y deddfwriaeth, yn hawlio fyddai’n gwneud yn haws i greu cynnyrch ffug. Daeth ymchwiliad gan Gyllid a Thollau EM dod i’r casgliad does dim tystiolaeth i gefnogi bydd pecynnau safonedig yn cael effaith ar faint y marchnad tybaco anghyfreithlon. Roedd broffesai fod y masnach tybaco anghyfreithlon wedi cynyddu yn Awstralia yn ddi-sail, fel dangosodd ymchwil o Lywodraeth Awstralia ar ôl gweithrediad.
Efo sefydliadau iechyd eraill, fe wnaeth grŵp ymgyrchu ar reolaeth tybaco ASH Cymru ymgyrchu ar gyfer newid yn y gyfraith yng Nghymru. Dywedodd Suzanne Cass, Prif Gweithredwr ASH Cymru,
“Pobl ifanc yw prif gynulleidfa a chwsmeriaid allweddol y diwydiant tybaco – y genhedlaeth nesaf o ysmygwyr. Unrhywbeth allwn ni wneud i rwystro nhw rhag mynd yn gaeth i rywbeth sy’n lladd un ym mhob dau defnyddwyr hir-tymor yn peth da.”
“Mae’r pecynnau safonedig yma yn pwysig iawn – cafon nhw eu dylunio i stopio pobl ifanc, sydd wedi dylynwadu’n cryf gan be’ welwn nhw o’u hamgylch, rhag cymryd lan yr arfer marwol yma. Mae cwmnïau tybaco yn gwybod nid oes angen denu oedolion sydd barod yn gaeth.”
Mae gan y diwydiant tybaco tan Mai 2017 i sicrhau fod pob cynnyrch tybaco yn cydymffurfio efo’r deddfwriaeth newydd. Mae ASH Cymru nawr yn galw ar fanwerthwyr i ail-meddwl am leoliad cynnyrch tybaco ac i ddefnyddio’r man tu ôl i’r cownter i hyrwyddo cynnyrch efo elw uwch.
Parhaodd Suzanne Cass, “Mae diflaniad sigarets tu hwnt i ddrysau nenbont a’r sifft i becynnu ‘plaen’ yn golygu fod y lleoliad traddodiadol o dybaco yn allan o ddyddiad. Mae’n gwneud synwyr fod nawr yw’r amser i ail-feddwl y ffordd mae manwerthwyr yn hyrwyddo a gwerthu sigarets a thybaco barod wedi rolio yn y marchnad yma sy’n dirywio.”