Gan Gymru mae’r gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran smygu yn ystod beichiogrwydd, ac mae hyn yn peryglu bywydau miloedd o fabanod, mae’r elusen iechyd Action on Smoking and Health (ASH) Cymruwedi rhybuddio.
Mae 33% o fenywod beichiog yng Nghymru yn smygu ar ryw adeg yn ystod eu beichiogrwydd – canran sylweddol uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, sef 26% – gan achosi perygl niwed gan dybaco i 11,864 o fabanod heb eu geni bob blwyddyn.
Mae smygu yn ystod beichiogrwydd yn cynyddu risg babanod marw-anedig, Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (marwolaeth yn y crud); geni cyn amser; pwysau geni isel a chamesgoriad. Mae smygu gan famau hefyd yn gysylltiedig ag amrywiaeth o broblemau iechyd drwy gydol oes y baban gan gynnwys asthma, namau cynhenid fel gwefus hollt, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd ac anawsterau dysgu.
Yng Nghymru gall Dim Smygu Cymru ddarparu cymorth un i un i helpu menywod beichiog roi’r gorau i smygu, ond mae’r cyfraddau’n dal i fod yn uchel ac yn gyndyn o newid.
Gan fod Sul y Mamau y penwythnos hwn mae ASH Cymru’n galw am i bob bydwraig ac ymwelydd iechyd yng Nghymru gael ei hyfforddi i gynghori menywod ynghylch rhoi’r gorau i smygu fel rhan o’u hyfforddiant cyn-gofrestru, mewn ymgais i gynorthwyo mwy o fenywod drwy’r broses o roi’r gorau iddi.