In Press Release Welsh

Yn hwyrach heddiw bydd cricedwyr ifanc yn lansio ymgyrch newydd gan Action on Smoking and Health (ASH) Cymru o’r enw #RhannarAer i wneud rhagor o fannau cyhoeddus yng Nghymru yn ddi-fwg.

Gan adeiladu aryr ymgyrch lwyddiannus yn 2013 i gael Meysydd Chwarae Di-Fwgbydd ASH Cymru yn lansio #RhannarAer yn hwyrach heddiw yn annog pobl i beidio tanio mewn mannau cyhoeddus eraill fel meysydd chwaraeon, caeau chwarae, traethau a tu allan i ysgolion.

Mae stadiwm Swalec yn gartref i dim criced Morgannwg ac mae yno eisoes bolisi di-fwg yn y rhan fwyaf o’r stadiwm ond mae’n gofyn i wylwyr feddwl ddwywaith cyn cynnau mewn unrhyw fan yn y maes.

Mae ymgyrch #RhannarAer yn rhan o weledigaeth ASH Cymru am genhedlaeth ddi-fwg lle na fydd plant sy’n cael eu geni heddiw yn profi mwg ail-law ac y bydd ganddyn nhw’r hyder i ymwrthod â smygu eu hunain.

“Fel rhan o’n hymgyrch #RhannarAerbyddwn ni’n gweithio gyda chynghorau, busnesau ac ysgolion i hyrwyddo mannau di-fwg ar draws Cymru. Byddwn yn annog pobl i feddwl ddwywaith cyn cynnau pan mae plant yno, neu mewn mannau cyhoeddus, er lles pawb. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda chynghorau lleol i’w hannog i arwyddo “Siarter Di-Fwg” sy’n gosod ethos di-fwg wrth wraidd cynllunio mannau cyhoeddus yn y dyfodol.

“Mae meysydd chwaraeon, caeau chwarae a thraethau yn fannau cyfeillgar i deuluoedd a ddylai fod yn rhydd o fwg ail-law a sbwriel sigaréts. Gobeithio bydd aelodau’r cyhoedd yn hyrwyddo amgylchedd di-fwg ac yn helpu i newid agweddau tuag at smygu, yn enwdig pan mae plant o gwmpas mewn amgylchedd teuluol.”

Elen de Lacy, Prif Weithredwr ASH Cymru

Ym mis Ebrill eleni fe gyflwynodd Cyngor Ynys Môn bentref di-fwg yn Llanfairpwll lle cafodd gwaharddiad gwirfoddol ei weithredu. Cafodd arwydd di-fwg, a ddyluniwyd gan Morgan Jones, o Ysgol Dwyran, ei osod y tu allan i fynedfeydd ac allanfeydd tafarnau, siopau, meysydd chwarae ac adnoddau cymunedol eraill

“Mae cryn dipyn o gefnogaeth ymhlith preswylwyr a busnesau ac mae’r cyngor cymuned hefyd yn chwarae rôl amlwg yn yr ymdrech i ymestyn y cynllun meysydd chwarae di-fwg presennol drwy’r pentref i gyd.”

“Fydd y cynllun ddim yn cael ei blismona ond rydym yn gobeithio y bydd y gymuned leol yn annog ymwelwyr a phreswylwyr i beidio smygu mewn mannau cyhoeddus penodedig. Fe ddylai busnesau a sefydliadau twristiaeth, yn enwedig mannau arlwyo, elwa wrth i Lanfairpwll ddod yn ddi-fwg.”

Luned Edwards, Health and Wellbeing Project Officer, Anglesey Council

Leave a Comment