In Blog Welsh

“Smygais i o 17 i 35, yn smygu lan at 20 sigaret y diwrnod yn y diwedd. Ceisiais i roi’r gorau i smygu nifer o weithiau, yn llwyddiannus am unrhywbeth o ddiwrnodau i 6 mis ar un adeg. Fel nyrs, yr oedd y peryglon yn gyfarwydd i mi a rhoddais i gyngor ar sut i roi’r gorau i smygu yn aml. Nid oedd hyn, neu ‘oedran ysgyfaint’ o 54 at 34 mlwydd oed, yn digon i berswadio fi i stopio.

Sylweddolais i ar deimladau rhyfedd yn fy mhysedd wrth smygu fwy, a roeddwn i’n ymwybodol o’r newropathi amgantol sy’n gallu cael ei achosi gan ddifrod i’r llestri fach –  dyma oedd fy arwydd, felly rhoddais i’r gorau i smygu.

howard-small-wordpress

“Os oeddwn i’n rhoi un darn o gyngor i eraill, fydd yn hyn –  pawb sy’n dechrau smygu eto yn cael esgus dda. Mae’r plant yn ychwanegu straen ar fy mhywyd, mae’r ci ‘di marw, es i trwy ysgariad neu amser caled, ayyb.”

“Ar yr adegau lle roeddwn i’n crefu, edrychais i am esgusodion; rhywun i feio. Teimlais i’n isel pryd yr oedd fy mam yn dost, ond rhwystrais i’r cref i ddechrau smygu. Does dim un esgus sy’n cyfiawnhau dechrau smygu, mae’n celwydd i’ch hun.”

Leave a Comment