In Press Release Welsh

Ymunodd plant ysgol gynradd ag aelodau o garfan rygbi Cymru heddiw i alw ar bobl i Roi’r Gorau dros Gymru fel rhan o ymgyrch fawr i ostwng cyfraddau smygu yng Nghymru ac achub bywydau.

Cymerodd aelodau o’r garfan egwyl o’u sesiwn hyfforddi cyn y gêm nos Wener yn erbyn Tonga yn Stadiwm y Mileniwm i gefnogi ymgyrch ASH Cymru, Rhoi’r Gorau dros Gymru. Nod yr ymgyrch yw darbwyllo smygwyr ledled Cymru i geisio rhoi’r gorau iddi ac i rannu eu rhesymau dros wneud, er mwyn ysbrydoli eraill.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn tynnu sylw at yr angen i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru i grwpiau agored i niwed fel pobl ifanc, menywod beichiog a phobl ag anawsterau iechyd meddwl, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cymorth iawn.

Yn ddiweddar mae’r plant, o Ysgol Gynradd Ynys y Barri ym Mro Morgannwg, wedi dylunio eu harwydd dim smygu eu hunain i’w maes chwarae lleol a’r terfyn o gwmpas eu hysgol.

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: “Rydyn ni wrth ein bodd i gefnogi ASH Cymru ac ymgyrch Rhoi’r Gorau dros Gymru. Rydyn ni’n cefnogi eu hymdrechion i helpu pobl i roi’r gorau i smygu ac rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru gael cymorth a chefnogaeth i roi’r gorau iddi.

“Mae smygu’n gaethiwed marwol sy’n lladd miloedd o bobl bob blwyddyn yng Nghymru. Rydyn ni’n canmol pob un person sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi, p’un ai er mwyn ei iechyd ei hun neu iechyd ei deulu. Rydyn ni eisiau gweld Cymru iach ac egnïol lle gall pob un person gyrraedd ei botensial llawn a lle gall ein plant fwynhau dyfodol di-fwg. Ymunwch ag ymgyrch Rhoi’r Gorau dros Gymru a rhannwch eich rheswm dros roi’r gorau iddi ar quitforwales.org”

Bydd y cyn-smygwr Howard Hughes o Ystrad Mynach yn ymddangos ynghyd â smygwyr a chyn-smygwyr yn ffilm ymgyrchu fer ASH Cymru a gaiff ei dangos cyn y gêm rhwng Cymru ac Awstralia ar Dachwedd 30ain,

Dywedodd Howard: “Dyw hi ddim yn hawdd rhoi’r gorau iddi ond rwy wedi ymuno ag ymgyrch Rhoi’r Gorau dros Gymru oherwydd rwy’n gobeithio y bydd fy stori i’n annog eraill i geisio rhoi’r gorau iddi. Rwy wedi cyffroi’n lân ynghylch bod yn ffilm ymgyrchu ASH Cymru ac mae’r ffaith y bydd hi’n cael ei dangos yn Stadiwm y Mileniwm yn gyfle gwych i gyrraedd cynifer o bobl.

“Ro’n i’n smygu o 17 oed hyd nes ’mod i’n 35 ac ro’n i’n smygu 20 y dydd erbyn y diwedd,” meddai Howard. “Ro’n i wedi ceisio rhoi’r gorau iddi nifer o weithiau, gan lwyddo am gyfnodau o ychydig o ddyddiau i 6 mis ar un adeg. Fel nyrs, ro’n i’n gwybod beth oedd y risgiau i gyd, ro’n i’n rhoi cyngor ar roi’r gorau i smygu, ond allwn ni ddim rhoi’r gorau iddi fy hun.

“Dechreuais i sylwi ar binnau bach yn fy mysedd wrth smygu’n drymach ac ro’n i’n gwybod am y niwropathi perifferol sy’n gallu deillio o ddifrod i’r pibelli gwaed bach. Dyna oedd yr ysgogiad i fi, felly es i ati i roi’r gorau iddi heb fathau eraill o nicotin, a llwyddais i.

“Petawn i’n rhoi un gair o gyngor yn unig, hyn fyddai fe – mae gan bawb rwy’n siarad â nhw sy’n ailddechrau smygu ryw esgus da. Pryd bynnag roedd gen i flys am sigarét, byddwn i’n cael fy hun yn chwilio am esgus; rhywbeth i’w feio. Does ’na ddim esgusodion sy’n cyfiawnhau ailddechrau, dim ond ffordd arall o dwyllo dy hun yw hynny.”

Dywedodd Elen de Lacy, prif weithredwr ASH Cymru: “Mae’n wych cael cefnogaeth Undeb Rygbi Cymru i’n hymgyrch Rhoi’r Gorau dros Gymru ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ei gefnogaeth yn ysbrydoli rhai o’r hanner miliwn o smygwyr yng Nghymru i geisio rhoi’r gorau iddi. Mae smygu’n lladd mwy na 5,000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru ac mae angen i ni roi pob cyfle i bobl i’w helpu i roi’r gorau iddi. Nod yr ymgyrch hon yw darbwyllo pobl i gefnogi ei gilydd ac ysbrydoli eraill trwy rannu eu storïau am roi’r gorau iddi. Rydyn ni’n pwyso ar bawb i wneud ei adduned ar quitforwales.org neu ar gyfryngau cymdeithasu gan ddefnyddio’r hashtag #rhoirgoradrosgymru

Leave a Comment