In Press Release Welsh

Mae ASH Cymru yn falch fod y Llywodraeth Cymraeg wedi ymateb yn positif i’r tystiolaeth sydd wedi cael ei darparu iddynt a rhoi’r gorau i gynlluniau i wahardd e-sigarets yn mannau cyhoeddus.

Mae’r tystiolaeth yn dangos fod e-sigarets yn cael ei defnyddio fel offeryn i roi’r gorau iddi gan nifer sylweddol o gyn-ysmygwyr. Mae’n pwysig fod e-sigarets yn cael eu rheoleiddio’n cywir ac yn cael eu defnyddio am roi’r gorau iddi yn unig, ond mae rhaid i’r gwahaniaeth rhwng tybaco a e-sigarets fod yn glir. Cytunir yn gyffredinol fod fapio yn lot llai niweidiol na sigarets, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr rydyn nhw’n 95% llai niweidiol. Hefyd, does dim tystiolaeth i awgrymu fod yr anwedd goddefol o e-sigarets yn niweidiol i iechyd gwylwyr.

ASH Cymru yn edrych ymlaen at gefnogi’r Mesur Iechyd y Cyhoedd (Cymru) diwygiedig sy’n cynnwys mesurau rheoli tybaco blaengar fel y cyflwyniad o gofrestr manwerthu tybaco.

Leave a Comment