Lansiwyd ymgyrch genedlaethol i atal troseddwyr rhag cynnig tybaco anghyfreithlon i blant ar ôl i arolwg newydd ddangos bod gwerthwyr wedi ceisio’i werthu i fwy na thraean o’r plant sy’n smygu yng Nghymru.
Dangosodd yr arolwg, a gynhaliwyd drwy Gymru gyfan, o fwy na 1,000 o blant 11 i 16 oed fod 32% o’r smygwyr presennol wedi cael cynnig tybaco anghyfreithlon rhad a bod 25% wedi mynd ymlaen i’w brynu.
Yn ôl yr ymchwil diweddaraf gan ASH Cymru, tybaco anghyfreithlon yw 10% o’r farchnad dybaco gyfan. Mae’n ariannu gweithgarwch troseddol yn y gymuned ac yn ei gwneud yn hawdd i blant ddechrau smygu.
Dangosodd yr arolwg gan NEMS, sef y mwyaf o’i fath yn y DU, fod plant yng Nghymru yn fwyaf tebygol o gael cynnig tybaco anghyfreithlon gan ffrindiau neu deulu (39%), mewn lleoliadau addysgol (17%) ac mewn siopau (11%).
Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod plant oedd wedi prynu tybaco anghyfreithlon yn debygol iawn o’i brynu bob tro roedd yn cael ei gynnig iddynt (89%).
Mae Llywodraeth Cymru, Safonau Masnach a’r grŵp gweithredu ar dybaco ASH Cymru wedi lansio ymgyrch genedlaethol i annog aelodau o’r gymuned i roi gwybodaeth yn ddienw am dybaco anghyfreithlon trwy wefan NoIfs-NoButts.
Dywedodd Lynne Neagle AoS, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Rwy’n gwybod am yr ymchwil diweddaraf gan NEMS ac mae’n peri pryder imi. Pan fyddwn yn amddiffyn ein plant rhag tybaco anghyfreithlon, byddwn yn eu hamddiffyn rhag bywyd o gaethiwed posibl i dybaco.
“Smygu yw prif achos afiechyd y gellid ei atal a marwolaeth gynamserol yng Nghymru, ffaith sy’n flaenllaw iawn ym maes iechyd yma. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed o Gymru ddi-fwg erbyn 2030, sy’n golygu llai na 5% o’r boblogaeth yn smygu.
“Rwyf yn arbennig o awyddus i gadw sigaréts allan o ddwylo plant ac rwy’n annog pawb i roi gwybod am werthwyr sy’n torri’r gyfraith.”
Datgelodd yr arolwg hefyd bod mwy na 50% o’r plant a brynodd dybaco anghyfreithlon yn dweud ei fod yn golygu y gallent barhau i smygu oherwydd ei fod yn rhatach ac yn haws cael gafael arno.
Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru, fod yr achos dros weithredu yn glir iawn erbyn hyn: “Nid dewis o ran ffordd o fyw yw smygu, ond caethiwed marwol sy’n dechrau yn ystod plentyndod bron bob amser.
“Mae’r ffigyrau diweddaraf hyn yn dangos bod troseddwyr sy’n poeni dim beth yw oedran y plant nac am y deddfau sydd gennym i’w hamddiffyn, yn cynnig ac yn gwerthu tybaco anghyfreithlon i lawer gormod o blant yng Nghymru.
“Mae tybaco anghyfreithlon rhad yn creu porth i smygu oherwydd ei fod yn rhad ac yn hawdd cael gafael arno. Mae angen i gymunedau ledled Cymru gyd-dynnu ac adrodd am y gwerthiannau anghyfreithlon hyn ac amddiffyn ein plant.”
Mae tybaco anghyfreithlon ar gael mewn llawer o ffurfiau gwahanol gan gynnwys:
- ‘Sigaréts gwyn rhad’, sef sigaréts a gaiff eu cynhyrchu ar raddfa fawr mewn un wlad a’u smyglo i wlad arall.
- Sigaréts ffug, sy’n edrych yn debyg i frandiau adnabyddus.
- Tybaco go iawn a gaiff ei smyglo i mewn i’r DU heb dalu dim tollau (yn aml yn rhad ac â ieithoedd tramor ar y pecynnau).
Mae adroddiadau a gafwyd o wefan Noifs-NoButts y Llywodraeth eisoes wedi arwain at gyrchoedd ledled Cymru. Fis diwethaf yn unig, cipiwyd chwarter miliwn o sigaréts a 20Kg o dybaco rholio yn ystod cyrchoedd ledled y Gogledd.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach ar Dybaco yng Nghymru: “Ni ddylid bychanu graddau’r effaith mae’r gweithgarwch troseddol hwn yn ei chael ar ein cymunedau.
“Gyda bron miliwn o sigaréts anghyfreithlon yn cael eu smygu yng Nghymru bob dydd, mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei werthu ym mhob cwr o Gymru.
“Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r rhai sy’n torri’r gyfraith, ymafael mewn cynhyrchion anghyfreithlon, achosi’r tarfu mwyaf posibl, cau eu gweithrediadau ac erlyn ymddygiad troseddol.“
Yn 2021, aeth timau Safonau Masnach Cymru â mwy na 3 miliwn o sigaréts anghyfreithlon oddi ar y farchnad ddu anffurfiol. Os ydych chi’n adnabod unrhyw un sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon yng Nghymru, mae porth adrodd yn ddienw ar gael ar: noifs-nobutts.co.uk.
Nodiadau:
2022 Canlyniadau Arolwg NEMS: sampl o blant 11-16 oed: 1022
Wedi clywed am dybaco anghyfreithlon | 54% |
Smygwyr | 7% |
Smygwyr sy’n smygu bob dydd | 52% |
Smygwyr sy’n smygu canabis | 41% |
Wedi cael cynnig tybaco anghyfreithlon (smygwyr) | 32% |
Y rhai a brynodd dybaco anghyfreithlon pan gafodd ei gynnig iddynt (smygwyr) | 24% |
Pa mor aml maent wedi’i brynu pan gawsant ei gynnig (prynwyr tybaco anghyfreithlon) | 89% |
Wedi rhoi cynnig ar dybaco anghyfreithlon (smygwyr) | 36% |
Wedi prynu tybaco anghyfreithlon (smygwyr) | 25% |
Sianel arferol tybaco anghyfreithlon: siop (prynwyr tybaco anghyfreithlon) | 11% |
Sianel arferol tybaco anghyfreithlon: ffrind / aelod o’r teulu (prynwyr tybaco anghyfreithlon) | 39% |
Sianel arferol tybaco anghyfreithlon: lleoliad addysgol (prynwyr tybaco anghyfreithlon) | 17% |
- Mae Arolwg Tybaco Anghyfreithlon 2014 (NEMS), ar gael
- Cynhaliwyd arolwg 2022 diweddar NEMS gan ASH Cymru, ac fe’i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Mwy o wybodaeth am dybaco anghyfreithlon yng Nghymru, ar gael
- Cyrch diweddar yng ngogledd Cymru (datganiad i’r wasg gwreiddiol), ar gael
- Ffigurau 2021 o gyrchoedd tybaco anghyfreithlon cenedlaethol yng Nghymru (datganiad i’r wasg gwreiddiol), ar gael yma.
- Porth adrodd Noif- No Butts ar gael yma.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Simon Scheeres |Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus| simon@ashwales.org.uk |07841 571 516|
Amdanom ni:
ASH Wales Cymru yw’r sefydliad arweiniol sy’n gweithio dros Gymru ddi-fwg trwy bolisi cryf ar reoli tybaco ac ymgyrchoedd ledled y wlad. Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o effeithiau smygu ar iechyd, yr economi a’r amgylchedd trwy ymgysylltu â chymunedau, pobl ifanc a phartneriaid ledled Cymru.
DS: Gofynnwn ichi gyfeirio at ASH Cymru fel sefydliad iechyd/ rheoli tybaco.
Gwefan www.ash.wales Facebook www.facebook.com/ASHCymru
Twitter www.twitter.com/ASHWalesCymru