In Press Release Welsh

Nid yw ein gwerthoedd ar werth”:

Rhaid i Lywodraeth Cymru roi iechyd y cyhoedd cyn elw, medd ASH Cymru

Mae’r elusen iechyd cyhoeddus ASH Cymru wedi rhybuddio y bydd unrhyw eithriadau i’r gwaharddiad ar smygu yng Nghymru’n dinistrio hygrededd Cymru ym maes iechyd y cyhoedd ac yn dadsefydlogi deddfwriaeth ar smygu ledled y Deyrnas Unedig.

Y mis nesaf gofynnir i Aelodau Cynulliad lastwreiddio prif ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus Cymru er mwyn eithrio ffilmiau a rhaglenni teledu, yn dilyn pwysau masnachol oddi wrth y diwydiannau creadigol.

Yn Lloegr roedd eithriad ar gyfer ffilmio wedi’i gynnwys yn ei deddfwriaeth wreiddiol. Ond ni chaniateir smygu ar setiau cynhyrchu nac mewn stiwdios ffilmiau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fel rhan o ddeddfwriaeth i ddiogelu pob gweithiwr rhag effeithiau niweidiol mwg ail law.

Mae ASH Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru, os yw’n gwneud yr un peth â Lloegr wrth greu eithriad, mae perygl y bydd yn creu effaith domino yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac y bydd yn agor y llifddorau i ragor o heriau i ddeddfwriaeth Cymru ar smygu os bydd mwy o ddiwydiannau’n cyflwyno dadl ‘economaidd’.

Dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, Elen de Lacy:

“Y ddeddfwriaeth mangreoedd di-fwg yw un o’r mesurau mwyaf llwyddiannus ym maes iechyd y cyhoedd sydd wedi cael eu cyflwyno yng Nghymru ac mae wedi cael cefnogaeth helaeth gan y cyhoedd, gydag 80% o oedolion Cymru o’i phlaid.

“Gall Cymru fod yn falch mai ni oedd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i alw am waharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig, ond bydd y symudiad hwn yn cyhoeddi i’r byd bod ein gwerthoedd ar werth pan fo pethau’n mynd yn anodd.

“Mae smygu’n lladd bron 6,000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru a phasiwyd y gyfraith i ddiogelu iechyd pob gweithiwr yng Nghymru. Ni ddylai criwiau ffilm a staff cynhyrchu gael eu hamddifadu o’r diogelwch hwn a’u gorfodi i ddod i gysylltiad â mwg ail law oherwydd pwysau oddi wrth y diwydiant.

“Mae’r eithriad hwn yn tanseilio’n llwyr ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau cyfradd y bobl sy’n smygu i 16% erbyn 2020 ac mae hefyd yn rhoi’r arwydd cwbl anghywir i blant a phobl ifanc, y gwyddom fod yr hyn maen nhw’n ei weld mewn ffilmiau ac ar y teledu’n dylanwadu’n fawr arnyn nhw.

“Mae unrhyw ddiwygiad i’r ddeddfwriaeth yn gam yn ôl i Gymru ac nid yn unig mae eithriad yn achosi’r perygl y caiff effaith domino ei chreu ledled y Deyrnas Unedig gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon yn debygol o ddilyn, ond bydd yn rhoi rhwydd hynt i ddiwydiannau eraill herio’r ddeddfwriaeth yn y dyfodol os oes pwysau masnachol.”

Cafodd y diwygiad ei wrthwynebu gan 75% o’r rheiny a ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn nechrau 2012.

Mae hefyd yn cael ei wrthwynebu gan Gynghrair Rheoli Tybaco Cymru – rhwydwaith o fwy na 30 o sefydliadau ledled Cymru yn ogystal â chyrff dylanwadol eraill ar draws y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Delyth Lloyd, Rheolwr Materion Cyhoeddus Sefydliad Prydenig y Galon (Cymru):

“Ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru’n edrych ar ffyrdd i arwain gweddill y Deyrnas Unedig wrth leihau’r niwed i iechyd sy’n cael ei achosi gan smygu goddefol, er enghraifft trwy roi rhagor o sylw i smygu mewn ceir a chartrefi, byddai gwanhau’r rheoliadau di-fwg yng Nghymru, sydd wedi’u bwriadu i ddiogelu pob gweithiwr rhag dod i gysylltiad â mwg ail-law, yn gam yn ôl.”

Dywedodd Tina Donnelly, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru:

“Mae’r eithriad hwn yn rhoi’r neges anghywir yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad uchelgeisiol i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae defnyddio tybaco yn un o’r prif bryderon ym maes iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Bob dydd mae nyrsys yn gweld effeithiau andwyol smygu a defnyddio tybaco ar eu cleifion. Mae’r dystiolaeth frawychus yn dangos bod arnon ni ddyletswydd foesol i ddefnyddio pob opsiwn deddfwriaethol i ddiogelu iechyd pobl rhag peryglon smygu.”

Dywedodd Sheila Duffy, Prif Weithredwr ASH Scotland:

“Mae’r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig wedi bod yn llwyddiant ysgubol a phoblogaidd yn yr Alban ac yng Nghymru. Oherwydd bod mwg tybaco’n sylwedd peryglus dylen ni ddim caniatáu eithriadau i ddiogelu iechyd y cyhoedd oherwydd dadleuon annheg gan unrhyw ddiwydiant. Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i ddiogelu ei hanes da ei hun ym maes iechyd y cyhoedd, yn ogystal â’r bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau teledu a ffilmiau.”

Dywedodd Ruth Jones, ffisiotherapydd pediatrig ac Is-gadeirydd Bwrdd Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yng Nghymru:

“Mae’n hawdd iawn i’r hyn mae plant a phobl ifanc yn ei weld ar y teledu ddylanwadu arnyn nhw. Mae’n hanfodol i smygu gael ei gadw oddi ar y teledu ac allan o ffilmiau. Rhaid i Gymru a Llywodraeth Cymru arwain trwy esiampl.”

Nodiadau

Mae oddeutu 14,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed yn dechrau smygu bob blwyddyn yng Nghymru (Llywodraeth Cymru 2011)

Rhai o’r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn erbyn unrhyw ddiwygiad i’r ddeddfwriaeth ar smygu:

Ein pryder ni…yw y bydd y diwygiad hwn yn rhoi rhwydd hynt i ddefnyddio smygu’n llawer mwy helaeth mewn cynyrchiadau. Felly rydym yn cynghori yn erbyn y diwygiadau.”

Coleg Brenhinol y Ffisigwyr

Ni welwn unrhyw gyfiawnhad dros ddwyn y diwygiadau hyn ymlaen….Mae’n tanseilio holl gyfeiriad gwaith hybu iechyd y cyhoedd a rheoli tybaco yng Nghymru. Yn y bôn, mae’r diwygiad hwn yn golygu glastwreiddio’r rheoliadau Mangreoedd Di-fwg yng Nghymru, polisi sydd wedi cael llawer iawn, iawn o gefnogaeth gan y cyhoedd.”

BMA Cymru

Fel rheolwr sy’n gyfrifol am staff sy’n gorfodi’r rheoliadau di-fwg, byddai’r diwygiad i’r ddeddfwriaeth yn amhosibl ei orfodi, oherwydd y ffaith nad oes modd diffinio ‘uniondeb artistig y perfformiad’….Oni fydd yna adnoddau ychwanegol i orfodi’r rheoliadau, byddai’r diwydiant yn cael ei adael i’w blismona ei hun.”

Hybu Iechyd a Safonau Masnach, Dinas a Sir Abertawe

Nid yw’r peryglon i iechyd yn gyfyngedig i fwg ail-law os yw’r actorion y mae’n ofynnol iddyn nhw smygu’n dod yn gaeth i smygu.”

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Byddai caniatáu i smygu gael ei ddangos yn gallu cael effaith negyddol ar bobl ifanc a menywod beichiog oherwydd normaleiddio smygu trwy’r cyfryngau.”

Pwyllgor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cymru

Cafodd y cyfyngiad ar smygu mewn perfformiadau ei gyflwyno ar sail gadarn yn ymwneud ag iechyd. ’Does dim tystiolaeth yn ymwneud ag iechyd i gefnogi unrhyw ddiwygiad i’r cyfyngiad nac unrhyw lastwreiddio ohono.”

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, Cymru

“[Mae yna]…ddulliau amgen yn lle diwygio’r rheoliadau, sy’n defnyddio delweddau a gynhyrchir gan gyfrifiaduron a phropiau arbennig. Pan fo’r rhain ar gael a phan fo’r peryglon i iechyd o newid y rheoliadau’n glir, rydym yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i beidio â diwygio’r rheoliadau presennol.”

Cancer Research UK

Mae’r diwygiadau a gynigir yn peryglu iechyd pobl ac yn darparu mesurau diogelu annheg i broffesiynau penodol – perfformwyr a staff cynorthwyol.”

Cyngor Caerdydd

Leave a Comment