Bydd pobl ifanc yn ymgyrchu mewn bagiau cyrff yng Ngholeg Iâl yn Wrecsam ar Fawrth 20fed er mwyn annog eu cyfeillion i beidio â bod yn genhedlaeth nesaf o smygwyr i’r diwydiant tybaco.
Bydd myfyrwyr lleol yn ymuno ag ymgyrchwyr o The Filter, yr unig wasanaeth rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru i bobl ifanc 11-25 oed, i annog pobl ifanc i ‘gamu allan, codi llais a chymryd rheolaeth’ yn erbyn Tybaco Mawr fel rhan o Ddiwrnod Cicio’r Sigaréts Allan – ymgyrch fyd-eang sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc godi llais yn erbyn y diwydiant sy’n eu gweld fel y bobl fydd yn cymryd lle smygwyr sy’n marw neu roi’r gorau iddi, yn y dyfodol.
Dywedodd Rhys Simmons, Swyddog Datblygu Ieuenctid The Filter: “Mae Diwrnod Cicio’r Sigaréts Allan yn galluogi pobl ifanc i fod â’r hyder i ddweud ‘na’ i smygu a phrotestio yn erbyn y ffordd mae’r diwydiant tybaco’n eu targedu.
“Mae 15 o bobl y dydd yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o glefydau sy’n gysylltiedig â smygu – sef un person bob 90 munud. Dydyn ni ddim eisiau i bobl ifanc wynebu’r realiti honno rhagor,” meddai.
“Byddwn ni yng Ngholeg Iâl yn Wrecsam yn cynnig cyngor i bobl ifanc sydd eisiau rhoi’r gorau iddi, yn sôn am ba gymorth sydd ar gael a hefyd, gobeithio, yn perswadio eraill nad ydi ddim yn werth y risg o ddechrau.”
The Filter yw’r unig wasanaeth penodol i bobl ifanc sy’n cynnig cyngor a chymorth ynghylch smygu a sut i roi’r gorau iddi yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gweithio gyda phobl ifanc hwythau i godi ymwybyddiaeth o beryglon tybaco.
Yn ogystal â rhedeg llinell rhoi’r gorau iddi, mae The Filter yn cyfathrebu gyda phobl ifanc trwy gyfryngau cymdeithasol, wefan bwrpasol a llinell negeseuon testun ac yn eu hannog i gymryd rhan mewn gwaith ymgyrchu a chynorthwyo cyfoedion yn lleol.