Blwyddyn ar ôl ei lansio, mae Prosiect Ieuenctid Action on Smoking and Health Cymru, The Filter, wedi lansio ei ap cyntaf i ffonau symudol, sef y Distractor. Gellir lawrlwytho’r ap am ddim, ac mae’n tynnu sylw pobl ifanc mewn ffordd greadigol er mwyn eu helpu i reoli eu hysfa am dybaco; mae hefyd yn cynnig mynediad yn yr ap ei hun at wefan gwybodaeth a gwasanaeth cymorth The Filter.
Caiff pobl ifanc eu gwahodd i drechu’r ysfa gyda phrif swyddogaeth yr ap – y tynnwr sylw. Rhoddir ‘thema’ neu ysgogiad i ddefnyddwyr i greu delwedd ac amserydd tri munud sy’n cyfrif i lawr. Y nod yw tynnu sylw pobl ifanc yn ddigon hir i’r ysfa am dybaco ddarfod.
Caiff yr ap ei lansio ar ddydd Gwener 10fed Ionawr, union flwyddyn ers lansio prosiect The Filter ei hun, sydd â’r nod o leihau nifer y plant sy’n dechrau smygu bob blwyddyn yng Nghymru. Caiff The Filter ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr i ddarparu cymorth a chyngor ar roi’r gorau i smygu i bobl ifanc 11-25 oed, ac ef yw’r unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru.
Yn ei flwyddyn gyntaf, mae tîm y prosiect wedi gweithio gyda grwpiau ieuenctid, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o beryglon smygu. Mae The Filter hefyd wedi dod â Gwobrau Cut Films i Gymru ac wedi cynnal Filter the Future, yr uwchgynhadledd ieuenctid gyntaf erioed yng Nghymru ar dybaco ac iechyd smygu.