Tystiolaeth newydd a chafodd ei cyhoeddi heddiw yn dangos nid oes tystiolaeth i ddangos fod e-sigarets yn ‘borth’ i bobl ifanc dechrau smygu.
Mae’r arolwg blynyddol gan grŵp ymgyrch rheolaeth tybaco, ASH Cymru, yn holu mwy na 830 o bobl 11 i 18 oed ar draws Cymru.
Am y trydedd blwyddyn yn olynol mae’r arolwg yn dangos does dim cysylltiad rhwng pobl ifanc yn fapio a dechrau smygu tybaco.
Ers yr ymddangosiad cyflym o e-sigarets mae nifer fawr o weithwyr iechyd proffesiynol wedi bod yn bryderus gallynt ail-normaleiddio smygu ac ymddwyn fel ‘porth’ tuag at dybaco ar gyfer pobl ifanc.
O’r pobl ifanc wnaeth adrodd defnyddio e-sigarets a thybaco, roedd 90% wedi defnyddio tybaco cyntaf, yn awgrymu’r absenoldeb unrhyw theori ‘porth’. Mae’r arolwg yn cadarnhau fod y defnydd o e-sigarets wedi ei gyfyngu i smygwyr neu cyn-smygwyr ac maent yn anaml yn cael eu defnyddio gan ‘byth’ smygwyr.
Hefyd, fe ddangoswyd fod 30% o ddefnyddwyr e-sigarets wedi lwyddo i roi’r gorau i smygu gyfan gwbl. Gwnaeth y rhesymau am ddefnyddio e-sigarets amrywio o’r blas, i ffrindiau yn eu defnyddio, i eisiau trio nhw.
Pobl ifanc o’r ardaloedd tlotach yng Nghymru yn 25% mwy tebygol o wedi defnyddio e-sigarets wedi cymharu i’w cymheiriaid yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig o’r gwlad.
Mae’r ystadegau o amgylch defnydd gan bobl ifanc yn cyfateb â chanlyniadau diweddar o amgylch defnydd oedolion o’r Arolwg Iechyd Cymru 2015. Hyn oedd y tro cyntaf wnaeth yr Arolwg Iechyd Cymru edrych ar y defnydd o e-sigarets. Dangosodd bod 6% o’r pobl dros 16 ar hyn o bryd yn defnyddio e-sigaret – 140,000 o’r poblogaeth Cymru. Roedd y defnydd o fewn byth-smygwyr yn isel iawn at 0.06%.
“Am y trydydd blwyddyn yn olynol mae ein ymchwil wedi cadarnhau nid yw pobl ifanc yn defnyddio e-sigarets os ydyn nhw byth wedi smygu o’r blaen.
Mae e-sigarets yn gallu cynwys nicotin caethyddol a does dim angen i bobl ifanc defnyddio’r dyfeisiau yma. Rydyn ni’n falch i weld y calyniadau diweddarach cadarnhau bod e-sigarets yn cael eu defnyddio fel dyfeis i roi’r gorau i smygu, yn tebyg i patsys nicotin neu gwm ac ar y foment nid ydyn nhw’n ymddwyn fel ‘porth’ tuag at dybaco. Mae defnyddwyr e-sigarets nawr yn lleihau’r niwed maent yn gwneud i’w corff sy’n cael ei achosi gan y nwy tybaco gwenwynig sy’n achosi cancr.”
“Mae yna llawer o ddryswch o amgylch y perthynas rhwng e-sigarets a smygu o fewn pobl ifanc. Mae arolygau yn wledydd eraill yn parhau i honni mae na cysylltiad er lles i cyfraddau smygu o bobl ifanc yn parhau i ostwng yn y wledydd hon. Dylai’r ymchwil newydd yma o Gymru tawelu meddwl y cyhoedd, er bod pobl ifanc yn arbrofi gyda e-sigarets, nid ydyn ni’n gweld defnydd rheolaidd o fewn byth-ysmygwyr. Yn y cyfamser, mae cyfraddau smygu o fewn pobl ifanc yn ostwng, sy’n allweddol i atal canser a’r clefydau eraill mae smygu yn achosi.”
“Rydym yn falch bod y canfyddiadau diweddaraf o ASH Cymru yn uwcholeuo’r tueddiadau calonogol i ddangos nid yw pobl ifanc yng Nghymru yn troi i e-sigarets fel ffordd o smygu ond yn hytrach fel ffordd o leihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan yr cymeriant o dybaco trwy sigarets.”
- Holl canlyniadau: ‘E-cigarettes and Young People’ (lawrlwytho)
- Mwy o wybodaeth ar e-sigarets
Cysylltiad | Emily Cole | 02920 490621