In Press Release Welsh
llantwit-school

Mae disgyblion ysgol gynradd Llanilltud Fawr wedi bod yn pigo lan bonion sigarets o draeth lleol i gofnodi Diwrnod Iechyd yr Amgylchedd (Dydd Llun 26ain Medi).

Diwrnod Iechyd yr Amglychedd, sy’n cael ei rhedeg gan y Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, yn galw am reoliadau ysmygu llymach i gynnal a wella amgylcheddau di-fwg, yn ogystal o amgylch plant.

Mae ymgyrchwyr arweiniol Cymru ar gyfer rheolau tybaco, ASH Cymru, a ddisgyblion o ‘ysgol eco’ Ysgol y Ddraig wedi gwario’r diwrnod at draeth Llanilltud Fawr yn casglu bonion sydd wedi eu daflu.

Caiff pobl ifanc eu dylanwadu’n gryf gan bobl eraill yn smygu o’u hamgylch – nhw sydd efo rhiant sy’n smygu yn 70% fwy tebygol o gymryd i lan yr arfer.

llantwit-school-2

Dau trydedd o oedolion sy’n smygu wedi dechrau’r arfer cyn iddyn nhw gadael eu harddegau. Fe all gwahardd smygu yn amgylcheddau gyfeillgar i blant ‘dad-normaleiddio’ yr arfer peryglus yma.

Trefnodd y codi sbwriel gan ASH Cymru fel rhan o’u hymgyrch llwyddianus ‘Ardaloedd Di-fwg’. Mae’r ymgyrch yn anelu at gweld mwy o ardaloedd, fel traethau a gatiau ysgol, yn dod yn ddi-fwg i amddiffyn iechyd plant.

O Gwanwyn 2016, roedd pob cyngor yng Nghymru wedi rhoi ar waith gwaharddiad gwirfoddol ar ysmygu o fewn meysydd chwarae plant.

Mae mwg sigarets yn llygru’r aer ond nid yw’r bonion plastig yma yn bioddiraddio ac yn cynnwys gwenwynau tocsig sy’n llygru ein dyfrffyrdd, yn ogystal â pheryglu anifeiliaid sy’n eu bwyta.

Sbwriel sigarets yw’r peth fwyaf sy’n cael ei frith ar draws y byd efo 4.5 triliwn o fonion wedi eu daflu pob blwyddyn.

Mae’r bonion a ddefnyddir yn mynd i cael eu hailgylchu i greu hunanbortread gan artist Cymraeg Nathan Wyburn. Caiff y portread ei dadorchuddio ar Ddydd Mawrth 27ain Medi at y Pierhead, Bae Caerdydd.

llantwit-school

Dywedodd Julie Barratt, Cyfarwyddwr y Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd Cymru, sy’n goruchwylio Diwrnod Iechyd yr Amgylchedd yng Nghymru, “Rydym yn gwybod fod plant yn dysgu ymddygiad o beth allwn nhw gweld. Trwy cymryd smygu tu fas i’r amgylcheddau lle rydyn nhw’n chwarae, fel meysydd chwarae a traethau neu  lle rydyn nhw’n rhyngweithio efo oedolion, fel gatiau ysgol, ni fyddynt yn cael eu hamlygu i’r neges fod smygu yn ymddygiad normal. Mae’r SSIA yn cymeradwyo’n gryf Ardaloedd Dim Smygu mewn y fath llefydd ac yn annog sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i ymgysylltu a ni ac efo ASH Cymru i hyrwyddo nhw.”

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru, “Mae Diwrnod Iechyd yr Amgylchedd yn cyfle bendigedig ar gyfer plant sefyll lan a ddweud ‘na!’ i’r arfer peryglus yn yr ardaloedd lle rydyn nhw’n chwarae. Mae’n hanfodol eu fod ni’n amddiffyn genhedlaethau’r dyfodol rhag weld smygu fel peth ‘normal’ pan mae e’n lladd 50% o’i defnyddwyr hir dymor.”

“Rydym yn credu y gall Cymru arwain y ffordd yn y DU ar ardaloedd di-fwg. Efo’r cefnogaeth a chydweithrediad o gynghorau lleol a’r cyhoedd rydym yn gallu gwneud gwahaniaeth syfrdanol i’r iechyd er lles pobl ifanc.”

Leave a Comment