In Press Release Welsh

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cefnogi ymgyrch i wneud Cymru yn wlâd ddi-fwg eleni trwy wahardd ysmygu ar y Maes.

Yr ŵyl ieuenctid, fydd yn cael ei chynnal ym Mhencoed ddiwedd mis Mai, fydd y digwyddiad mawr cyntaf yng Nghymru i ymuno gydag ymgyrch Haf Di-fwg ASH Wales Cymru. Bydd yr Urdd yn cynnig gŵyl di-fwg er mwyn hyrwyddo amgylchedd lân a iach i’r ymwelwyr.

Bydd y gwaharddiad ar draws Maes yr Eisteddfod dros chwech diwrnod yr ŵyl, fydd yn croesawu 90,000 o ymwelwyr yn ystod yr wythnos a 15,000 o gystadleuwyr.

Gyda nifer gynyddol o lefydd yn cael eu gwneud yn ddi-fwg, mae ASH yn galw ar drefnwyr gwyliau ac atyniadau ymwelwyr i ymuno gyda’u hymgyrch di-fwg.

Mae ymchwil yn dangos fod pobl ifanc yn cael eu dylanwadu’n fawr gan bobl eraill yn ysmygu o’u hamgylch. Mae plant i rieni sydd yn ysmygu 70% yn fwy tebygol o ysmygu eu hunain. Mae bron i hanner ysmygwyr yn dechrau cyn gadael yr ysgol, ac o ran plant sydd yn rhoi cynnig ar ysmygu, mae tua traean ohonynt yn ysmygu yn rheolaidd o fewn 3 mlynedd.

I ddathlu y cyhoeddiad hwn heddiw, mae cynllun ieuenctid ASH Wales Cymru, The Filter ar y cyd gyda’r Urdd, yn cynnig cystadleuaeth ar-lein i annog pobl ifanc i rannu lluniau coch, gwyn neu wyrdd. Bydd yr enillydd yn ennill tocynnau i’r Eisteddfod a thocyn teulu i barc antur Cymreig.

youth-festival

Yn ô Adele Pember, Trefnydd Ymgyrchoedd ASH Wales Cymru, “Rydym eisiau i blant weld llai o bobl yn ysmygu. Po fwyaf o wyliau sydd yn ddi-fwg, lleiaf tebygol yw plant o weld ac felly ddechrau ysmygu – mae’n arferiad marwol sydd dal i ladd un o bob dau defnyddiwr hir dymor.

“Mae ein ymgyrch i wneud parciau chwarae yn ddi-fwg wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda phob cyngor yng Nghymru yn gwahardd ‘smygu yn yr ardaloedd yma. Ein cam nesaf nawr yw annog atyniadau teuluol a gwyliau ieuenctid i fod yn ddi-fwg er mwyn gwarchod y genhedlaeth nesaf rhag ysmygu. Rydym yn hynod o falch fod Eisteddfod yr Urdd wedi ymuno â’n hymgyrch. Mae’r digwyddiadau a’r atyniadau hyn, fydd yn cynnwys gŵyl Tafwyl eleni, yn creu awyrgylch llawer mwy pleserus i bawb – yn arbennig y plant a phobl ifanc fydd yn ymweld yn ddyddiol.”

Ychwanegodd Morys Gruffudd, Trefnydd Eisteddfod yr Urdd, “Rydym yn falch ein bod yn un o brif wyliau Cymru sydd wedi gwahardd ysmygu ar y Maes. Mae’n ŵyl deuluol sydd yn denu tua 90,000 yn ystod yr wythnos ac mae ond yn iawn ein  bod yn gwahardd ysmygu er mwyn cynnig amgylchedd glan a iach i’r ymwelwyr.

“O fewn y safle 20 acr mae’r pafiliwn cystadlu, ffair a thua 80 o stondinau yn gwerthu pob math o bethau – o dlysau a ddillad i fyrddau picnic a threlars. Mae ardal weithgareddau i’r plant sydd yn cynnwys wal ddringo, sesiynau chwaraeon, trampolins ac amryw o weithdai gan gynnwys cerddoriaeth fyw yn yr ardal fwyta. Mae’n wych ein bod yn gallu cynnig hyn oll mewn awyrgylch di-fwg.”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 29 Mai a dydd Sadwrn 3 Mehefin ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr ac mae tocynnau rhad nawr ar gael.

Leave a Comment