In Press Release Welsh

Mae cynghrair rheoli tybaco’n cefnogi galwadau am raglen ar draws Cymru gyfan i fynd i’r afael â phroblem tybaco anghyfreithlon.

Cafodd rhaglen ddogfen am ba mor gyffredin yw tybaco anghyfreithlon a’r camau sy’n cael eu cymryd i frwydro yn ei erbyn ei darlledu ar S4C o dan yr enw ‘Y Byd ar Bedwar: Dan y Cownter’ neithiwr (9.30pm ar nos Fawrth 10 Ebrill).

Illegal Tobacco

Mae’n dilyn adroddiad gan yr elusen rheoli tybaco ASH Cymru a ddangosodd fod tybaco anghyfreithlon yn 15% o’r holl farchnad tybaco yng Nghymru – sef mwy nag yn unrhyw ranbarth arall yn y Deyrnas Unedig.

Mae Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru – sy’n cynnwys sefydliadau iechyd fel Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Sefydliad Prydeinig y Galon, BMA Cymru a Gofal Canser Tenovus – yn dweud bod angen rhaglen gydgysylltiedig i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon er mwyn sicrhau bod llai ohono ar gael i bobl ifanc ac er mwyn cadw troseddau allan o’n cymunedau.

Dywed Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru y byddai ymagwedd amlasiantaethol, wedi’i chefnogi gan gynllun cyfathrebu cynhwysfawr, yn lleihau’r cyflenwad tybaco anghyfreithlon ar draws Cymru, a’r galw amdano, yn sylweddol.

Caiff sigaréts a thybaco rholio â llaw eu hystyried yn anghyfreithlon os ydyn nhw wedi cael eu smyglo i’r wlad neu eu prynu mewn gwlad dramor fel nwyddau ‘di-doll’ gan osgoi trethi’r Deyrnas Unedig, neu os ydyn nhw’n gynhyrchion ffug a wnaethpwyd i edrych fel rhai brandiau mawr.

Roedd yn rhwydd i newyddiadurwyr Y Byd ar Bedwar brynu sigaréts anghyfreithlon mewn siopau papurau newydd ar draws Caerdydd. Aethon nhw i 9 siop a gwerthwyd sigaréts anghyfreithlon iddyn nhw mewn dwy ohonynt. Roedd y pecyn rhataf – brand o Rwsia nad yw’n cael ei werthu yn y Deyrnas Unedig – yn costio dim ond £3. Mae pecyn cyfreithlon o 20 sigarét yn costio rhwng £8 a £12.

Mae ymchwil yn dangos bod plant yn fwy tebygol o gael cynnig sigaréts anghyfreithlon nag oedolion ac mae’r pris isel yn ei gwneud yn llawer haws iddyn nhw brynu tybaco a mynd yn gaeth iddo.

Illegal Tobacco

Cynyddu’r pris yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ostwng cyfraddau smygu ac mae prisiau tybaco anghyfreithlon, sy’n is o lawer, yn cael gwared ar y rhwystr hwn i’r rheiny na fydden nhw fel arall yn gallu fforddio dal i smygu.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau ac os na chymerir unrhyw gamau ychwanegol, na fyddwn yn cyrraedd y targed cenedlaethol ar gyfer canran yr oedolion sy’n smygu, sef 16% erbyn 2020. Yn ôl ffigurau diweddar oddi wrth Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn lle hynny byddwn yn cyrraedd y targed o 16% yn 2025.

Mae masnachu mewn tybaco anghyfreithlon hefyd wedi’i gysylltu â throseddau cyfundrefnol difrifol yn lleol ac yn genedlaethol, ac mae’n gysylltiedig â throseddau eraill gan gynnwys gwyngalchu arian, caethwasiaeth fodern ac ecsbloetio plant.

Meddai Suzanne Cass, gan gynrychioli Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru ar ran ASH Cymru: “Mae tybaco o bob math yn niweidiol ond mae tybaco anghyfreithlon yn creu risg ychwanegol i’n plant a’n cymunedau gan ei fod yn cael ei werthu mor rhad gan droseddwyr nad oes ganddyn nhw ddim diddordeb mewn unrhyw beth ond gwneud arian.

“Mae smygu’n gaethiwed sy’n dechrau, bron bob tro, yn ystod plentyndod. Mae argaeledd sigaréts rhad yn rhoi cyfle i blant ddechrau arfer gydol oes sydd o bosibl yn angheuol.

“Nid dim ond y fasnach ’o dan y cownter’ mewn siopau yw’r broblem; mae plant yn mynd i ‘dai troseddwyr’ i brynu sigaréts neu dybaco rholio â llaw, sy’n golygu eu bod nhw’n cwrdd yn rheolaidd ag oedolion sydd o bosibl yn gwerthu nwyddau anghyfreithlon eraill neu a allai achub ar y cyfle i ecsbloetio’r berthynas rhyngddyn nhw a’r person ifanc.”

Aeth Suzanne ymlaen: “Mae Cynghrair Rheoli Tybaco Cymru’n galw am ymagwedd gydgysylltiedig amlasiantaethol i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon a allai leihau cyflenwad tybaco anghyfreithlon a’r galw amdano’n sylweddol. Byddai mynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon yn gam hynod bwysig at Gymru iachach, fwy diogel a mwy cyfartal.

Cynghrair Rheoli Tybaco’n Cefnogi Galwadau i Fynd i’r Afael â Thybaco Anghyfreithlon yng Nghymru

Wrth siarad ar raglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd yr Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth: “Os ydyn ni o’r farn bod gostwng lefel y tybaco sy’n cael ei werthu’n anghyfreithlon yn bwysig yna mae angen inni gymryd camau i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud i fynd i’r afael â gwerthu anghyfreithlon.

“Beth rydyn ni ei angen yw sicrwydd gan y llywodraeth eu bod nhw’n cymryd y mater o ddifrif achos os oes gennyn ni ffenestr yn fan hyn sy’n gyfle i bobl ifanc yn arbennig ddechrau smygu oherwydd bod cynnydd wedi bod mewn tybaco anghyfreithlon, mi ddylai hynny fod yn rhywbeth sy’n ein pryderu. Rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus iawn fel cymdeithas yn cyfyngu ar y cyfleon i bobl smygu a dwi’n gefnogol iawn, iawn o hynny.”

Dywedodd llefarydd ar ran Gofal Canser Tenovus, sy’n aelod o Gynghrair Rheoli Tybaco Cymru: “Rydyn ni’n cefnogi cynnig ASH Cymru am raglen dair blynedd i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon, sy’n dal i wneud niwed difrifol mewn cymunedau yng Nghymru ac yn cyfrannu at y 5,500 o farwolaethau oherwydd tybaco yng Nghymru bob blwyddyn.

“Rydyn ni hefyd yn ailadrodd ein galwad am i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth gyflawni ar gyfer ei Chynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco er mwyn sicrhau nad yw ei tharged ei hun i ostwng canran smygwyr i 16% o’r boblogaeth erbyn 2020 yn cael ei fethu.”

Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon yn drosedd difrifol a all arwain at ddirwyon mawr a charchar. Gall unrhyw un sydd eisiau rhoi gwybod am werthu tybaco anghyfreithlon wneud hynny’n ddienw trwy ffonio’r Llinell Tybaco Anghyfreithlon ar 0300 999 0000.

Leave a Comment