Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi cyhoeddi datganiad safbwynt newydd ar ddefnyddio sigaréts electronig i roi’r gorau i smygu.
Mae’r datganiad, a gyhoeddwyd ar ddydd Mercher 29 Tachwedd, yn cymryd i ystyriaeth newidiadau i bolisi yn y Deyrnas Unedig yn sgil Cyfarwyddeb Cynhyrchion Tybaco’r Undeb Ewropeaidd a’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o hyd am effeithiau e-sigaréts ar iechyd, yn enwedig o gymharu â sigaréts traddodiadol.
Mae datganiad safbwynt newydd y BMA yn dweud: “Mae nifer sylweddol o smygwyr yn defnyddio e-sigaréts (sigaréts electronig), ac mae llawer yn dweud eu bod o gymorth wrth roi’r gorau i ddefnyddio sigaréts neu i leihau’r defnydd ohonynt. Mae’n glir bod defnyddio’r rhain yn dod â buddion posibl o ran lleihau’r niwed sylweddol sy’n gysylltiedig â smygu, ac mae consensws cynyddol eu bod yn sylweddol lai niweidiol na defnyddio tybaco.
“O’u rheoleiddio’n briodol, mae gan e-sigaréts y potensial i wneud cyfraniad pwysig at uchelgais y BMA i sicrhau cymdeithas ddi-dybaco, gan arwain at nifer sylweddol lai o farwolaethau o glefydau sy’n gysylltiedig â thybaco”
Dywedodd Steven Macey, Swyddog Ymchwil a Pholisi ASH Cymru; “Mae negeseuon cyson mor bwysig ym maes iechyd, yn enwedig ynghylch pynciau poblogaidd a phynciau sy’n dod i’r amlwg, fel yn achos e-sigaréts. Mae’r drafodaeth barhaus am rinweddau e-sigaréts wedi arwain at ansicrwydd parhaus ymysg y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol ynghylch eu defnyddio – mae datganiad y BMA yn helpu i leddfu’r pryderon hyn.
“Mae’n rhaid i negeseuon iechyd y cyhoedd gyfleu’r ffaith bod defnyddio e-sigarét yn sylweddol lai niweidiol i iechyd na smygu sigaréts tybaco arferol ac, o ganlyniad i hyn, dylid hyrwyddo e-sigaréts fel ffordd ymarferol o roi’r gorau i smygu i smygwyr sydd eisiau ffarwelio â’u harfer marwol.”
Mae pwyntiau allweddol y BMA yn cynnwys y canlynol:
- Consensws cynyddol bod defnyddio e-sigaréts yn sylweddol fwy diogel na smygu tybaco
- Yn wahanol i sigaréts arferol, nid yw e-sigaréts yn llosgi – y rhan niweidiol o ddefnyddio tybaco. Mae’n bosibl bod anwedd e-sigaréts â rhai gwenwynau ynddo, ond fel arfer maent yn bresennol ar lefelau llawer is nag mewn mwg tybaco
- Mae’r e-sigaréts sydd ar gael ar hyn o bryd yn dod o dan reoliadau defnyddwyr ac yn gorfod bodloni safonau diogelwch cynhyrchion, ond nid yw’r safonau mor llym â’r safonau ar gyfer meddyginiaethau trwyddedig
- Oherwydd y cyfnod cyfyngedig mae e-sigaréts wedi bod ar gael yn helaeth, cyfyngedig yw’r wybodaeth am yr effaith y bydd eu defnyddio yn y tymor hir yn ei chael ar iechyd