In Press Release Welsh

Bydd ymgyrchwyr ifanc o The Filter, yr unig wasanaeth rhoi’r gorau i smygu penodol i bobl ifanc 11-25 oed yng Nghymru, yn ymgasglu ym Mhrifysgol Aberystwyth ar Fawrth 13eg i annog myfyrwyr i roi’r baco yn y bin a chadw’r pres yn eu pocedi.

I nodi achlysur cenedlaethol Diwrnod Dim Smygu bydd gwirfoddolwyr o The Filter, sy’n cael ei redeg gan ASH Cymru, yn cynnig cymorth i fyfyrwyr sydd eisiau rhoi’r gorau i smygu a dangos iddyn nhw faint y gallan nhw ei arbed os ydyn nhw’n penderfynu rhoi’r gorau iddi ar Fawrth 13eg.

Mae ASH Cymru’n cefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon sy’n rhedeg Diwrnod Dim Smygu i dynnu sylw at effaith smygu nid yn unig ar iechyd, ond ar gyllidebau mwyfwy tynn.
Mae The Filter wedi llunio canllaw hwylus i ddangos faint y gall rhoi’r gorau iddi ei arbed i chi a beth allech chi wario’r arian arno yn lle smygu…

  • Gallai 20 y dydd dros fis gostio hyd at £225, a allai brynu Netbook ar gyfer eich holl rwydweithio cymdeithasol
  • Bydd pecyn 10 y diwrnod dros flwyddyn yn costio £1,387 – all brynu pythefnos o wyliau hollgynhwysol i 2 yn yr Aifft
  • Bydd pecyn o 20 bob penwythnos i ‘smygwr cymdeithasol’ yn costio £390 y flwyddyn – pam na phrynwch iPad mini i chi’ch hun yn lle hynny?
  • Bydd 20 y dydd dros flwyddyn yn costio £2,730, a all brynu Ford Ka 3 mlwydd oed eithaf taclus

The Filter yw’r unig wasanaeth penodol i bobl ifanc sy’n cynnig cyngor a chymorth ynghylch smygu a sut i roi’r gorau iddi yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn gweithio gyda phobl ifanc hwythau i godi ymwybyddiaeth o beryglon tybaco. Yn ogystal â rhedeg llinell rhoi’r gorau iddi, mae The Filter yn cyfathrebu gyda phobl ifanc trwy gyfryngau cymdeithasol, wefan bwrpasol a llinell negeseuon testun.

Dywedodd Jamie Jones Mead, rheolwr The Filter:

“Mae Diwrnod Dim Smygu’n gyfle gwych i bobl ledled Cymru neidio i’r dwfn a rhoi’r gorau iddi. Hyd yn oed os ydych wedi ceisio gwneud llawer gwaith o’r blaen, fel arfer mae angen sawl ymgais cyn i chi lwyddo, ac mae cymorth ar gael os ydych chi’n barod. Byddwn ni yn Aberystwyth ar Fawrth 13eg i siarad â myfyrwyr am smygu a’r effaith mae’n ei chael arnyn nhw, ac i’w hannog i weld buddion hirdymor rhoi’r gorau i smygu, nid yn unig i’w hiechyd ond i’w pocedi hefyd!”

Leave a Comment