LLINELL AMSER RHOI’R GORAU I YSMYGU
Beth sy’n digwydd i’ch corff oriau, diwrnodau, hyd yn oed misoedd ar ôl rhoi’r gorau iddi.
Mae’r buddion i iechyd o roi’r gorau i smygu’n dechrau dim ond 20 munud ar ôl y pwff olaf. Mae rhywfaint o’r niwed a achoswyd gan smygu na fydd byth yn mynd i ffwrdd ond gorau po gyntaf y rhoddwch y gorau iddi. Hefyd, drwy beidio â llenwi’ch corff â 4000 o wenwynau bob dydd, byddwch chi’n byw’n hirach!
Pam rhoi’r gorau i ysmygu?
Y cam gorau y gall ysmygwr cymryd ar gyfer eu iechyd yw i roi’r gorau i ysmygu – mae’n ffaith bod 1 ym mhob 2 ysmygwr hir dymor yn mynd i farw o’r gaeth marwol yma. Y mantra yw “pawb yn marw yn y pen draw” ond ar gyfartaledd mae ysmygwyr yn marw 10 mlynnedd yn gynt ac yn aml, o salwch lot fwy poenus a gwanychol fel canser yr ysgyfaint, trawiad y galon a strociau.
Cyn gynted mae ysmygu yn cael ei delio gyda, y gynt all y corff trwsio ei hun. Mae unrhyw adeg di-fwg yn rhoi’r corff – yn arbennig yr ysgyfaint a llif gwaed – yr amser i ‘anadlu’ eto a chymryd i fewn yr aer glan sy’n anghenreidiol i ymadfer.
Mae yna rhywfaint o niwed sy’n cael ei achosi gan ysmygu a fydd byth yn mynd i ffwrdd ond does dim cwestiwn; dweud hwyl fawr i ysmygu a fyddwch yn byw bywyd lot hapusach, hirach a mwy cyfoeth.
Un o’r elfennau fwyaf ofnus o roi’r gorau i ysmygu yw’r ansicrwydd o beth fydd yn digwydd a mae hyn yn aml yn anghymell pobl rhag trio bod yn ddi-fwg yn y lle cyntaf. Dyma olwg at beth sy’n digwydd i’r corff, cam-wrth-cam.
Mae’r corff dynol yn peth arbennig – ond 20 munud ar ôl y sigarét olaf, mae’n dechrau adennill. Nicotin, y cemegyn caeth yn sigaréts, yn ymarfer fel symbylydd ac yn rhoi’r ‘cic’ pwysig. Dim yn hir ar ôl y pwff olaf o fwg, gwasgedd gwaed a churiad y galon yn dychwelyd i normal.
Dyma yw’r amser profiol lle mae’r mwyafrif o ysmygwyr yn ymestyn ar gyfer sigarét ychwanegol. Mae’r effeithiau o dynnu’n ôl yn gryf iawn wrth i nicotin gadael y llif gwaed a blysiau yn dechrau.
Lefelau straen a phryder yn cyrraedd y brig. Fel arfer nid yw’r teimlad o ‘straen’ sy’n cael ei cysylltu efo rhoi’r gorau iddi yn straen – mae’n arwydd o dynnu’n ôl. Dyna yw’r rheswm mae’n anwir fod ysmygu yn drinio straen, mae e ond yn fwydo chwant.
Os ydych yn mynd ‘cold turkey’, ni fydd unrhyw nicotin ar ôl yn y corff ond bydd yn cymryd bach o amser i chi addasu i’r teimlad newydd. Trwy ddefnyddio Therapïau Amnewid Nicotin fel gwm, patsys neu e-sigaréts yn cyflenwi’r corff efo nicotin ac yn gadael i’r ysmygwyr ddiddyfnu eu hunain o ysmygu yn ysgafn a haws i roi’r gorau iddi.
Derbynyddion blas ac arogl yn cael y siawns i wella, bydd bwyd yn blasu lot well!
Wrth cyrraedd un wythnos yn ddi-fwg mae ysmygwyr wedi curo’r gweithaf. Mae’n iawn i feddwl am ysmygu yn cyson – nawr mae’n engraifft o feddwl dros mater oherwydd nid yw’r corff yn erfyni tybaco.
Mae nifer o bobl yn dioddef o beswch ond mae hyn yn normal – ffordd o’r ysgyfaint clirio eu hun allan yw hyn.
Lefel y cylchlif gwaed yn arbennig i’r deintgig a dannedd yn ddychwelyd i normal, fel rhywun sydd ddim yn ysmygu. Nawr fod y ceg ddim yn cael ei peledu gan fwg, mae meinwe sydd wedi’i niweidio gan glefyd y geintgig yn gallu adennill.
Mae symptomau tynnu’n ôl yn gallu amrywio o ddicter, pryder, anhunedd ac iselder ysgafn ond erbyn un mis, dylai’r teimladau yma ymsuddo. Os na, argymellwn trip i’r Meddyg Teulu.
Pobl sy’n gallu cyrraedd 4 wythnos di-fwg yn bump gwaith fwy tebygol o aros yn ddi-fwg am byth!
Mae’r peryg o drawiad y galon wedi dechrau cwympo. Efo gweithrediad yr ysgyfaint yn dechrau gwella hefyd, dylai dringo’r grisiau fod bach fwy haws pob diwrnod.
Cerdded pellteroedd hir yn lot haws nawr. Dylai unrhyw peswch gwael wedi diflannu, ond os nad ydyny, mae cael eich gweld gan ddoctor yn bwysig oherwydd gall hyn for yn arwydd o rywbeth mwy sinistr.
Bydd unrhyw blinder a diffyg anadl yn rhan o’r gorffenol. Cilia, sydd sachau aer yr ysgyfaint, wedi ail-tyfu a gwella rhai o’r niwed achoswyd gan ysmygu, ond ni fydd yr ysgyfaint yn 100% iach.
Mae cyn-ysmygwyr yn 50% llai tebygol o ddioddef trawiad y galon neu strôc o fewn un flwyddyn o roi’r gorau iddi.
Un salwch hir dymor gall ysmygwyr datblygu yw diabetes. Para am 5 mlynedd di-fwg a bydd y siawns o’r clefyd datblygu yn union yr un peth a rhywun sydd ddim yn ysmygu.
Ardderchog! Mae’r risg o gael strôc yn union yr un peth a rhywun sydd ddim yn ysmygu. Mae mwg yn achosi i’r gwaed troi’n ludiog ac anodd i symud o amgylch y corff a dyna yw’r rheswm mae ysmygwyr yn llawer fwy tebygol o ddioddef strôc.
Canser ysgyfaint yw’r perygl mwyaf i fywyd ysmygwr. O fewn 10 mlynedd o roi’r gorau iddi, mae’r siawns o farwolaeth o ganser yr ysgyfaint yn hanner hwnnw o ysmygwr. Mae’r risg o ganserau eraill fel ceg a phancreatig yn lleihau’n syfrdanol.