Mae sefydliad ieuenctid Cymraeg sy’n helpu pobl rhoi’r gorau i smygu wedi mynd trawswladol efo’i prosiect tramor llwyddiannus cyntaf yn cael ei darparu yng nghartref ar gyfer plant amddifad Belarwseg ym Minsk, diolch i arian Ewropeaidd.
Mae’r Filter Cymru yn prosiect ieuenctid sy’n cefnogi pobl rhwng 11 a 25 ar draws y wlad i roi’r gorau i smygu trwy weithdai atyniadol a gynhwysol. Yn cael ei rhedeg gan y grŵp ymgyrch rheoli tybaco ASH Cymru, maent yn barod wedi gweithio efo dros 6,000 o bobl ifanc yn 4 mlynnedd diwethaf.
40% o ysmygwyr hir dymor yn y DU yn dechrau cyn troi 16 ac ar hyn o bryd 9% o blant 15 i 16 mlwydd oed yng Nghymru yn smygu yn rheolaidd.
Mae’r cynllun Cymraeg yn cael ei ailadrodd fel rhan o ailadrodd fel rhan o brosiect newydd Ewropeaidd a ariennir gan Erasmus Plus o’r enw, Y Filter Ewrop. Bydd y prosiect yn rhedeg ar draws 5 gwlad partner; Sbaen, Awstria, Romania, Belarws a’r Gwlad Pwyl – efo Belarws yn y cyntaf i ddechrau’r ymgyrch sylweddol yma.
Mae’r prosiect Ewropeaidd newydd yn mynd i weithio yn benodol efo cannoedd o bobl ifanc o ardaloedd dan anfantais, yn union fel Y Filter yn gwneud yma yng Nghymru.
Fe lawnsiodd Y Filter Ewrop yn diweddar yng Nghartef Plant Amddifad Rhif Pump ym Minsk ac yn anelu at addysgu’r plant am y peryglon o smygu trwy trafodaethau anffurfiol a therapi celf.
Tua 50% o ddynion a 11% o fenywod yn smygu yn Belarws – gwlad lle mae’r diwydiant tybaco yn eiddo gan y llywodraeth.
Dywedodd Mikalai Karenski, sy’n rhedeg y prosiect Belarwseg, “Unrhyw fath o ddibyniaeth, fel y gwelir gyda smygu, yn rhwystro’r dewisadau pobl ac yn stopio nhw rhag adeiladu eu fywyd yn y ffordd mae nhw’n moyn.”
“Dysgon ni’r plant pa mor pwysig yw e i fod yn annibynnol, gan gynnwys annibynniaeth o smygu. Mae’n pwysig i addysgu nhw sut i fod yn gyfrifol am eu bywydau, eu dewisiadau a wnaethon nhw deall hwnnw. Mae rhaid i ni sylweddoli bod annibynniaeth yn y llwybr i dwf personol.”
Dywedodd Julie Edwards, sy’n rhedeg partneriaethau Ewropeaidd ASH Cymru, “Mae’r prosiect yma yn cyfle da i rannu arfer gorau efo gwledydd Ewropeaidd eraill ar sut i fynd i’r afael â bobl ifanc yn smygu.”
“Pobl ifanc yw prif targed y diwydiant tybaco oherwydd nhw yw’r unig rhai sy’n gallu cymryd lle eu cwsmeriaid hir dymor, sy’n marw. Dau trydydd o ysmygwyr yn dechrau cyn yr oed o 18 a dyna yw’r rheswm mae raid i ni mynd a’r afael â’r problem yma.”
Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr o ASH Cymru, “Bydd gweithio ochr yn ochr â wledydd Ewropeaidd eraill yn profiad dysgu gwerthfawr ar gyfer y tim ieuenctid ASH Cymru sydd yn barod yn gweithio efo nifer fawr o bobl ifanc yn cymunedau dan anfantais ar draws Cymru.”