In Press Release Welsh

Mae ffigurau newydd ar smygu yng Nghymru’n datgelu mai rhentwyr sy’n fwyaf tebygol o smygu, gan arwain at alwadau am fwy o gymorth i’w helpu i roi’r gorau iddi.

Mae’r ffigurau, sydd wedi’u seilio ar arolwg a gynhaliwyd ar ran ASH Cymru gan YouGov, yn datgelu mai 24% yw’r gyfradd smygu ymysg preswylwyr tai cymdeithasol, ac 18% yw’r gyfradd ymysg pobl sy’n rhentu oddi wrth landlord preifat.

13% yw’r cyfartaledd ar draws pob daliadaeth tai, ac mae’r gyfradd isaf, sef 10%, ymysg pobl sy’n berchen ar eu cartrefi, neu’n berchen yn rhannol arnynt.

Yn ôl ASH Cymru, mae’r ffigurau hyn yn mynd peth o’r ffordd i esbonio’r anghydraddoldebau iechyd amlwg ar draws y gwahanol ddaliadaethau tai, ac yn dangos yr angen am gymorth a chyfarwyddyd mwy targededig ynghylch rhoi’r gorau i smygu.

Mae’n galw am roi i’r rheiny sy’n gweithio gyda phobl mewn cartrefi wedi’u rhentu, fel cymdeithasau tai a chynghorwyr dyled, fwy o hyfforddiant a chymorth ar sut i ddechrau sgyrsiau am smygu a’i effaith ar iechyd ac arian.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: “Nid dewis o ran ffordd o fyw yw smygu – mae’n gaethiwed. Mae’r ffigurau hyn yn dangos lle mae angen cymorth i helpu smygwyr i dorri’r caethiwed hwnnw.

“Mae’n hollbwysig inni ddefnyddio’r wybodaeth hon i dargedu adnoddau rhoi’r gorau i smygu at le mae eu hangen mwyaf.

“Mae’r sector tai yng Nghymru wedi ymrwymo i wella iechyd pobl sy’n agored i niwed, ac rydym yn awyddus iddynt gael y cymorth a chyfarwyddyd iawn ynghylch dechrau sgwrs am roi’r gorau i smygu gyda’u tenantiaid.”

Mae’r ffigurau hefyd yn pwysleisio bod mwy o gysylltiad â mwg ail-law ymysg pobl sy’n byw mewn cartrefi wedi’u rhentu o gymharu â pherchenogion tŷ.

Mae preswylwyr tai cymdeithasol dwywaith yn fwy tebygol na phreswylwyr mewn daliadaethau tai eraill o ddod i gysylltiad â mwg ail-law yn eu cartrefi eu hunain.

Bydd bron hanner y preswylwyr hyn (45%) yn dod i gysylltiad â mwg oddi wrth rywun yn agos i’w cartrefi eu hunain, fel cymydog, o gymharu â dim ond 21% ar gyfer yr holl ddaliadaethau tai eraill.

Mae’n destun pryder mai’r rhai ifanc ac agored i niwed sy’n wynebu’r risg mwyaf, gan fod cysylltiad â mwg ail-law yn uwch ar aelwydydd â phlant, o gymharu ag aelwydydd heb blant. Mae mwy na chwarter o’r ymatebwyr, 27%, mewn cartrefi gyda phlant 0-5 oed yn dod i gysylltiad â mwg ail-law oddi wrth rywun sy’n byw yn rhywle arall, fel cymydog.

Mae ffigurau smygu Cymru’n adlewyrchu ffigurau Lloegr, lle datgelodd ASH England fod smygu dwywaith yn fwy cyffredin mewn tai cymdeithasol nag mewn daliadaethau eraill. Mae’r adroddiad a lansiwyd yn Senedd y DU, Smoking in the home; new solutions for the smoke free generation, yn galw am fwy o ymgysylltiad rhwng gweithwyr proffesiynol ym meysydd tai ac iechyd a’r cymunedau mae arnynt angen y cymorth mwyaf.

Er gwaethaf cyfraddau uchel smygu ymysg tenantiaid tai, mae arolwg ASH Cymru hefyd yn datgelu y dywed 87% o oedolion yng Nghymru y byddai’n well ganddynt fyw gyda rhywun nad yw’n smygu.

Mae un o bob pum oedolyn yng Nghymru yn dal i smygu, ac mae smygu’n lladd mwy na 5,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Mae dod i gysylltiad â mwg ail-law yn achosi risgiau sylweddol i iechyd ymysg plant ac oedolion fel ei gilydd, gan gynnwys cynyddu risg plant o gael haint ar y llwybr anadlol isaf rhyw 50%, a dyblu risg plentyn o gael clefyd meningococcal ymledol.

Yn ddiweddar cafodd Scott Sanders, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Linc-Cymru, ei benodi’n gadeirydd ASH Cymru. Mae’n credu y gall y sector tai helpu i leihau’r anghydraddoldebau iechyd:

“Mae tai fforddiadwy’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu amgylcheddau diogel lle gall pobl adeiladu eu bywydau, ond mae’n mynd ymhellach na hynny gan fod yn rhaid i bopeth a wnawn gyfrannu at iechyd, llesiant a ffyniant pobl.

“Bydd cyflawni hyn yn helpu i leihau’r anghydraddoldeb sy’n bodoli mewn cymunedau, ac yn lleihau’r gydberthynas rhwng statws economaidd gymdeithasol a chyfraddau smygu.”

Mae ASH Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth i gymdeithasau tai a landlordiaid ynghylch sut i leihau cyfraddau smygu a gweithredu polisïau di-fwg. Gallwch ei lawrlwytho ymahttps://ash.wales/campaign/cartrefi-di-fwg/

DIWEDD

 Nodiadau i olygyddion

Ymholiadau: Diana Milne, Swyddog Cyfathrebu, ASH Cymru 02920 490621  diana@ashwales.org.uk

neu Beth Mahoney, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, ASH Cymru 02920 490621  beth@ashwales.org.uk

Cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r manylion uchod.

 

Amdanom ni

ASH Cymru yw’r prif sefydliad sy’n gweithio dros Gymru ddi-fwg trwy bolisi cryf ar reoli tybaco ac ymgyrchoedd ledled y wlad. Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o effeithiau smygu ar iechyd a’i effeithiau cymdeithasol ac economaidd trwy weithio gyda chymunedau, pobl ifanc a phartneriaid ledled Cymru.

D.S. Gofynnwn ichi gyfeirio at ASH Wales Cymru fel ‘grŵp ymgyrchu ar reoli tybaco’

Gwefan www.ashwales.org.uk

Facebook www.facebook.com/ASHCymru

Twitter www.twitter.com/ASHWalesCymru

Recommended Posts

Leave a Comment