Mae smygwyr yn cael eu ofyn i gadw’r arfer draw o gatiau ysgolion uwchradd yng Nghasnewydd wrth i’r cyngor lansio cynllun newydd i wneud eu hysgolion yn fwy iach.
Mae Ysgol Gyfun Caerllion yn y cyntaf i gyhoeddi ei gatiau ysgol yn ardaloedd di-fwg heddiw (Dydd Iau 24ain Tachwedd) fel rhan o fenter iechyd eang Casnewydd.
Mae grŵp rheolaeth tybaco, ASH Cymru, wedi bod yn lobïo ysgolion ar draws Cymru i wahardd smygu tu fas i’w gatiau a wedi creu arwyddion a chanllawiau ar gyfer ysgolion sydd moyn cymryd rhan.
Bydd pob ysgol gyfun yn y sir yn cael eu gofyn i ddilyn esiampl Caerllion trwy gweithredu’r gwaharddiad gwirfoddol yn yr wythnosau i ddod. Mae ysgolion gynradd yn yr ardal wedi ymrwymo i gatiau ysgol di-fwg efo arwyddion yn cael eu sefydlu ar draws y ddinas.
Mae ardaloedd di-fwg yn amddiffyn pobl rhag mwg ail-law ac yn de-normaleiddio’r arfer marwol yma. Bron hanner o smygwyr hir-dymor yn dechrau smygu cyn gadael ysgol uwchradd ac o fewn plant sy’n trio smygu, o amgylch un trydydd yn troi’s smygwyr rheolaidd o fewn 3 mlynnedd.
Dangoswyd ymchwil fod pobl ifanc yn cael ei dylanwadu’n fawr gan eraill yn smygu o’u hamgylch – plant efo rhiant sy’n smygu yn 70% fwy tebygol o gymryd lan yr arfer. Hefyd, trwy gwahardd smygu rydym yn gwella lefelau ysbwriel ac ansawdd yr amgylchedd lleol.
Dyweddod Aelod Cabinet Casnewydd ar gyfer Addysg a Phob Ifanc, Cynghorydd Gail Giles: “Rwy’n falch iawn fod gan ysgolion yn ein ardal awdurdod lleol y siawns i arwyddo lan i’r menter yma sy’n uwcholeuo’r niwed mae smygu yn achosi i’ch iechyd. Mae fe’n peth braf fod Ysgol Uwchradd Caerllion yw’r ysgol cyntaf yn Ne Cymru i wneud hynny.”
“Unrhywbeth allwn ni wneud i annog pobl rhag smygu o flaen eu plant, yn enwedig o flaen gatiau ysgol, yn peth da. Rydym yn gobeithio bydd pob ysgol ar draws Casnewydd yn cymryd lan y safonau gwirfoddol yma.”
Dywedodd Catherine Handley, Dirprwy Prif Athrawes o Ysgol Uwchradd Caerllion: “Rydym yn falch iawn i o fod yn rhan o’r menter yma gan ASH Cymru. Mae’n cam pwysig yn ein gwaith i hyrwyddo Ysgolion Iach a chodi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r risgiau iechyd sy’n cysylltiedig efo smygu.”
Fe wnaeth Suzanne Cass, Prif Gweithredwr ASH Cymru, dweud: “Mae smygu yn ardaloedd sydd wedi cael eu creu yn arbennig ar gyfer pobl ifacn yn anfon y neges hollol anghywir fod smygu yn rhan normal o fywyd pob dydd ac nid cyffur caethyddol a marwol. Mae’n angenrheidiol ein fod ni’n gosod esiamplau positif ble bynnag sy’n posib – nid ydydn ni’n eisiau i genedlaeth nesaf y wlad troi’n cwsmeriaid nesaf y diwydiant tybaco.”
Parhaodd Suzanne, “Rydym yn credu fod gan pobl ifanc yr hawl i gael addysg, chwarae a chwrdd â ffrindiau mewn amgylchedd glan, di-fwg. Mae gwahardd smygu at feysydd chwarae ac nawr gatiau ysgol yn cam enfawr yn y ffordd cywir.”