Mae Cyngor Abertawe wedi cymryd cam beiddgar trwy wahardd smygu ar eu meysydd chwarae er mwyn gwarchod plant rhag niwed mwg ail-law a’r syniad bod smygu’n weithgaredd diniwed.
Cynhelir y lansiad swyddogol ddydd Gwener 6ed Mehefin, 2.30pm ar Faes Chwarae Canolfan Phoenix, Powys Avenue, Townhill gyda phlant ysgol sydd wedi helpu i ymgyrchu dros feysydd chwarae di-fwg ac wedi dylunio eu harwyddion eu hunain. Bydd y lansiad yn cyd-daro ag un Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot fydd yn lansio eu meysydd chwarae di-fwg ar 14eg Mehefin ac sydd wedi cydweithio ar y fenter hon.
Datgelodd arolwg gan YouGov yn 2013 dros ASH Cymru fod 77% o oedolion yng Nghymru bellach yn credu y dylid gwahardd smygu mewn mannau lle mae plant yn chwarae. Ar hyn o bryd mae gan 11 o’r 22 awdurdod lleol feysydd chwarae di-fwg yn eu hardal – mae hyn i fod i gynyddu i 17 erbyn diwedd 2013.
Croesawodd Elen de Lacy, prif weithredwr yr elusen iechyd cyhoeddus Action on Smoking and Health yng Nghymru, lansiad y fenter meysydd chwarae di-fwg yn Abertawe a chanmolodd y gweithio partneriaethol rhwng yr holl asiantaethau a gymerodd ran:
“Mae’n newyddion ardderchog y bydd meysydd chwarae ledled Abertawe bellach yn fannau mwy diogel i blant oherwydd y penderfyniad hwn i wneud meysydd chwarae’n fannau di-fwg. Mae gan blant a phobl ifanc hawl i chwarae a chyfarfod â’u ffrindiau mewn amgylchedd glân, heb beryglon mwg ail-law a heb sbwriel sigaréts. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn helpu i orfodi’r gwaharddiad a chreu newid agwedd at smygu yng ngŵydd pobl ifanc. Rydyn ni eisiau i smygu gael ei wahardd ar bob maes chwarae yng Nghymru ac rydym yn pwyso ar gynghorau eraill i ddilyn eu harweiniad.”