In Press Release Welsh

Blwyddyn ar ôl ei lansio, mae Prosiect Ieuenctid Action on Smoking and Health Cymru, The Filter, wedi lansio ei ap cyntaf i ffonau symudol, sef y Distractor. Gellir lawrlwytho’r ap am ddim, ac mae’n tynnu sylw pobl ifanc mewn ffordd greadigol er mwyn eu helpu i reoli eu hysfa am dybaco; mae hefyd yn cynnig mynediad yn yr ap ei hun at wefan gwybodaeth a gwasanaeth cymorth The Filter.

Caiff pobl ifanc eu gwahodd i drechu’r ysfa gyda phrif swyddogaeth yr ap – y tynnwr sylw. Rhoddir ‘thema’ neu ysgogiad i ddefnyddwyr i greu delwedd ac amserydd tri munud sy’n cyfrif i lawr. Y nod yw tynnu sylw pobl ifanc yn ddigon hir i’r ysfa am dybaco ddarfod.

Caiff yr ap ei lansio ar ddydd Gwener 10fed Ionawr, union flwyddyn ers lansio prosiect The Filter ei hun, sydd â’r nod o leihau nifer y plant sy’n dechrau smygu bob blwyddyn yng Nghymru. Caiff The Filter ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr i ddarparu cymorth a chyngor ar roi’r gorau i smygu i bobl ifanc 11-25 oed, ac ef yw’r unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru.

Yn ei flwyddyn gyntaf, mae tîm y prosiect wedi gweithio gyda grwpiau ieuenctid, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o beryglon smygu. Mae The Filter hefyd wedi dod â Gwobrau Cut Films i Gymru ac wedi cynnal Filter the Future, yr uwchgynhadledd ieuenctid gyntaf erioed yng Nghymru ar dybaco ac iechyd smygu.

“Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn am rannu ap y Distractor gyda phobl ifanc ledled y wlad. Mae’n cymryd rhyw 3 munud i’r ysfa am dybaco ddarfod, a’r ffordd orau i reoli’r ysfa honno yw trwy dynnu sylw. Bydd yr ap yn tynnu sylw mewn ffordd hwyliog a dengar, ochr yn ochr â gwybodaeth a chyngor o ansawdd da am beryglon smygu.”

“Mae rhyw 14,500 o bobl ifanc 11-15 oed yn rhoi cynnig ar smygu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod rhyw 15% o ferched 15 oed a 9% o fechgyn 15 oed yn smygu’n rheolaidd (HBSC 2010) ac rydyn ni’n gweithio’n galed i ostwng y ffigurau hyn. Mae’r ap yn nodi dechrau’r cyfnod nesaf i The Filter, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda hyd yn oed fwy o bobl ifanc yn 2014 a rhoi’r hyder iddyn nhw i ddweud ‘na’ wrth dybaco.”

Jamie Jones-Mead, Rheolwr Rhaglen The Filter

Gyda’i agwedd greadigol a’r gallu i rannu delweddau a lluniau gyda ffrindiau, bydd yr ap yn apelio at smygwyr ac at bobl nad ydynt yn smygu. I greu delweddau, mae yna balet llawn o liwiau, offer brwsh paent, sticeri a’r dewis i ychwanegu ffotograff gan ddefnyddio camera’r ffôn. Pan mae’r tri munud wedi dod i ben, gellir cadw’r ddelwedd neu ei rhannu ar draws amrywiaeth o rwydweithiau cymdeithasu, a’i lanlwytho i oriel yr ap i bob defnyddiwr ei gweld. Hefyd dangosir ffaith am smygu ar ôl pob cylch tri munud.

Ochr yn ochr â’r tynnwr sylw, gellir cael mynediad i wefan gwybodaeth The Filter yn syth o’r ap. Mae’r wefan yn cynnig cymorth a chyngor, gan gynnwys sut i roi’r gorau i smygu, a’r ffeithiau am smygu a thybaco.

Mae mynediad i wasanaeth cyngor negeseua gwib The Filter hefyd wedi’i gynnwys yn yr ap. Mae ar gael i bobl ifanc ofyn cwestiwn neu sgwrsio gydag arbenigwr am y ffordd orau i roi’r gorau i smygu. Mae’r gwasanaeth cyngor ar gael ar ddyddiau’r wythnos rhwng 3pm ac 8pm.

Mae’r ap yn gwbl ddwyieithog ac ar gael i ddyfeisiau Android ac Apple (iPhone/iPod). Gellir lawrlwytho’r ap am ddim o Google Play ac App Store Apple.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan The Filter: www.thefilterwales.org/distractor a gwahoddir defnyddwyr i rannu eu delweddau a’u hadolygiadau o’r ap gyda’r hash tag #distractor.

Leave a Comment