Heddiw (dydd Iau, 21 Medi) dathlodd prosiect rhoi’r gorau i smygu a arweinir gan bobl yn eu harddegau o Gymru ymgysylltu â mwy na 1,100 o bobl ifanc ar draws Ewrop, gyda digwyddiad arddangos ym Mae Caerdydd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r elusen rheoli tybaco ASH Cymru wedi bod yn arwain prosiect Ewropeaidd a ariannwyd trwy gynllun Erasmus o’r enw The Filter Europe.
Roedd y digwyddiad, a gefnogwyd gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus, Rebecca Evans, yn nodi’r ffaith bod mwy na 300 o arweinwyr ieuenctid o 6 gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd wedi cael eu hyfforddi gan y cynllun. Mae 800 arall wedi manteisio ar addysg gan gyfoedion yn eu gwledydd eu hunain.
Fel rhan o’r prosiect, mae pobl yn eu harddegau o Gaerdydd, Aberystwyth, Bae Colwyn a Merthyr wedi cydweithio i greu pecyn cymorth penodol i bobl ifanc gyda gweithdai i weithwyr ieuenctid o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd ei ddefnyddio i annog eu pobl ifanc i roi’r gorau i smygu neu i beidio â dechrau yn y lle cyntaf.
Mae 40% o smygwyr hirdymor yn y Deyrnas Unedig yn dechrau cyn eu bod yn 16 oed ac ar hyn o bryd mae 9% o bobl ifanc 15 i 16 oed yng Nghymru’n smygu’n rheolaidd. Smygu yw prif achos marwolaethau ataliadwy yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r prosiect Ewropeaidd – sydd wedi addysgu pobl yn eu harddegau o Sbaen, Awstria, Romania, Belarus a Gwlad Pwyl – yn ailadrodd y gwaith mae ASH Cymru wedi bod yn ei wneud, gan weithio’n benodol gyda phobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.
Mae ASH Cymru wedi rhedeg gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu unigryw a sefydledig i bobl ifanc ar draws y wlad ers 5 mlynedd. Mae’n cynorthwyo pobl rhwng 11 a 25 oed i roi’r gorau i smygu trwy weithdai cynhwysol sy’n ennyn eu diddordeb ac mae wedi gweithio gyda 6,000 o bobl ifanc ers 2012.
Dywedodd Julie Edwards, sy’n rhedeg prosiect The Filter Europe yng Nghymru: “Yn The Filter Europe mae cannoedd o arweinwyr ieuenctid sy’n ysbrydoli eraill, sy’n siarad llawer o ieithoedd gwahanol ac sy’n dod o gefndiroedd gwahanol iawn, wedi cydweithio i sicrhau llwyddiant y prosiect hwn. Maen nhw wedi cynhyrchu pecyn cymorth rhoi’r gorau i smygu, sef rhywbeth diriaethol y gallan nhw fynd ag ef adref i’w cymunedau i gynorthwyo eu ffrindiau i roi’r gorau i dybaco.
“Mae’r gweithdai yn y pecyn cymorth – a grëwyd gan bobl ifanc i bobl ifanc – eisoes wedi dechrau cael eu rhoi ar waith. Byddan nhw’n gwneud gwahaniaeth enfawr, nid yn unig i’w ffrindiau, ond hefyd i’r bobl ifanc hyn yn bersonol wrth eu bod wedi creu rhywbeth gwerth chweil a rhywbeth i fod yn falch ohono.”
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus, Rebecca Evans: “Gall addysgu pobl ifanc am y niwed sy’n gysylltiedig â smygu gael effaith fawr ar ein nod i leihau cyfraddau smygu. Mae The Filter Europe yn rhoi i bobl ifanc y wybodaeth i ddylanwadu ar ymddygiad yn y dyfodol ac ar ganlyniadau iechyd.”
Mae pecyn cymorth The Filter Europe ar gael am ddim i unrhyw ganolfan neu brosiect ieuenctid yng Nghymru. Cysylltwch ag ASH Cymru i gael copi.