Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru’n galw am weithredu ar fyrder i roi cymorth gwell i bobl ag afiechyd meddwl roi’r gorau i smygu, gan fod y ffigurau’n dangos bod y gyfradd yn eu mysg 14% yn uwch nag ymysg y boblogaeth gyffredinol.
Mae Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru, sy’n cael ei redeg gan y grŵp ymgyrchu ar reoli tybaco ASH Cymru, yn dweud bod angen ymateb llawn a thrylwyr gan gynnwys: gwasanaeth cenedlaethol pwrpasol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu, hyfforddiant i weithwyr iechyd a gwaharddiad ar smygu mewn unedau preswyl iechyd meddwl.
Ar hyn o bryd mae 33% o’r bobl sydd ag afiechyd meddwl yn smygu, o gymharu â dim ond 19% o’r boblogaeth gyffredinol ledled Cymru.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod smygwyr sydd ag afiechyd meddwl yr un mor debygol o fod eisiau rhoi’r gorau iddi â gweddill y boblogaeth, gan chwalu’r myth nad yw’n peri pryder iddyn nhw. Nid yw’n wir chwaith bod smygu’n lleddfu straen gan fod llawer o’r teimladau hyn yn cael eu hachosi gan ddiddyfnu o nicotin, na fyddai’n bodoli pe na bai’r unigolyn yn smygu. Mae cyfraddau smygu uchel yn achosi llawer mwy o berygl marwolaeth gynamserol, salwch difrifol ac ansawdd bywyd gwaeth i bobl sydd ag afiechyd meddwl. Nid dim ond mater o iechyd yw hyn; mae diweithdra uchel a chost gynyddol tybaco’n creu baich ariannol trwm i smygwyr – mae rhwng chwarter a thraean holl incwm cyfartalog unigolyn sydd ag afiechyd meddwl yn cael ei wario ar dybaco.
Mae Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru, sy’n cynnwys 60 o weithwyr iechyd proffesiynol o bob rhan o Gymru, yn galw am weithredu pendant i fynd i’r afael â’r broblem ac wedi creu pedair galwad allweddol, sef:
- Gosod targedau rhoi’r gorau i smygu sydd yr un peth ag ymysg y boblogaeth gyffredinol
- Sefydlu gwasanaethau pwrpasol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu a fydd yn cael eu datblygu gan ac i bobl sydd â salwch meddwl
- Diwygio dogfen Llywodraeth Cymru “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun cyflawni” i roi sylw i hyfforddiant i’r holl staff cymorth iechyd meddwl
- Dileu’r eithriad sy’n caniatáu smygu mewn unedau preswyl iechyd meddwl
Mae polisïau di-fwg mewn unedau iechyd meddwl yng Nghymru y tu ôl i’r rhai yn Lloegr, lle mae’n ofynnol gan y gyfraith i unedau preswyl orfodi polisïau di-fwg ers 2008. Yng Nghymru mae ystafelloedd dynodedig mewn unedau iechyd meddwl wedi’u heithrio o’r gwaharddiad hwn.
Hefyd mae llawer o fyrddau iechyd yn Lloegr a’r Alban wedi dewis gwneud eu holl safleoedd GIG yn fannau di-fwg. Mae cefnogaeth sylweddol ymysg y cyhoedd i newid y polisi yng Nghymru. Yn ôl arolwg gan YouGov yn 2015, a gomisiynwyd gan ASH Cymru, mae 61% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi cyfraith debyg mewn darpariaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: “Mae’n ffaith drist a syfrdanol bod mwy na 50% o’r bobl â sgitsoffrenia yn marw o salwch sy’n gysylltiedig â smygu. Ni ddylid anghofio iechyd corfforol unigolyn wrth drin ei iechyd meddyliol.
“Gwyddom y byddai mwy na 60% o’r holl smygwyr, gan gynnwys y rheiny sydd ag afiechyd meddwl, yn hoffi rhoi’r gorau iddi, felly mae angen inni sicrhau bod pob unigolyn yn cael cymaint o gymorth ag sy’n bosibl i’w helpu i roi’r gorau iddi. Mae arnom ni angen gwasanaethau wedi’u teilwra, targedau heriol a hyfforddiant trylwyr ar roi’r gorau iddi i bawb sy’n gweithio gyda phobl sydd ag afiechyd meddwl.
“Mae gwasanaethau profedig yn bodoli eisoes, fel un Mind Aberystwyth, sy’n llwyddo i gynorthwyo pobl i gamu i ffwrdd o dybaco marwol. Mae angen inni ddatblygu eu gwaith anhygoel ar draws Cymru gyfan. Ni allwn barhau i osgoi cynorthwyo rhywun i roi’r gorau i smygu ar sail y ffaith ei fod â salwch meddwl.”
Mae bwlch enfawr wedi dod i’r amlwg o ran anghydraddoldeb iechyd, sy’n peri mwy o berygl marwolaeth gynamserol i bobl sydd ag afiechyd meddwl – hyd at 25 mlynedd yn gynharach.