In Press Release Welsh

Mae Dros 78,500 o Blant Wedi Dechrau Smygu ers i Ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Becynnau Tybaco Safonol Ddod i Ben

Ar Ddydd Gŵyl Sant Ffolant eleni mae’r Smokefree Action Coalition yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu a dangos bod ei chalon yn y lle iawn trwy ymrwymo i ddeddfwriaeth i wneud pob pecyn tybaco’n safonol. Heddiw yw degfed pen-blwydd gweithredu’r gwaharddiad ar hysbysebu tybaco a seithfed pen-blwydd y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar ddeddfwriaeth ddi-fwg.

Mae amser yn mynd rhagddo. Ers i’r ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth ddod i ben ychydig dros chwe mis yn ôl, amcangyfrifir y bydd 78,500 o blant wedi dechrau smygu yn y Deyrnas Unedig, nifer sy’n cynyddu 430 bob dydd. Yn awr mae’r Smokefree Action Coalition, cynghrair o fwy na 190 o sefydliadau iechyd gan gynnwys ASH Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain, colegau brenhinol meddygol, cyrff iechyd cyhoeddus, sefydliadau academaidd ac elusennau iechyd, yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno canlyniadau ei hymgynghoriad a chyhoeddi y bydd yn bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth.

Ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y ffordd mae cwmnïau tybaco rhyngwladol yn cael hyrwyddo eu brandiau trwy becynnau. Bellach y pecynnau yw’r brif ffordd o hyrwyddo tybaco ac maent wedi’u dylunio i ddenu’r defnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr gyda delweddau lliwgar a thrawiadol.

Dywedodd Elen de Lacy, Prif Weithredwr ASH Cymru:

“Mae’n bryd rhoi terfyn ar becynnau tybaco deniadol a chyflwyno pecynnau safonol yn y Deyrnas Unedig. Dim rhagor o ddeunyddiau pacio pinc a sgleiniog neu becynnau tybaco sy’n edrych fel bocsys persawr. Dim rhagor o sigaréts main gyda ‘Vogue’ ar y clawr sydd wedi’u targedu’n uniongyrchol at ferched yn eu harddegau. Mae smygu’n lladd ac mae’n rhaid i ni ddileu’r ffordd olaf sydd gan y diwydiant tybaco o hysbysebu i’n plant.”

Dywedodd Sir Richard Thompson, Llywydd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr:

“Fel meddyg ifanc roedd yn ddigalon i mi weld cynifer o gleifion yn eu 50au a’u 60au oedd yn dioddef oherwydd eu bod wedi dechrau smygu’n blant. Bryd hynny ychydig iawn y gallen ni ei wneud, ond bellach mae gennyn ni gyfle i helpu i ddiogelu ein plant trwy gyflwyno pecynnau safonol.”

Caethiwed plentyndod yw smygu, nid dewis oedolion. Mae mwy na 150,000 o blant yn dechrau smygu bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Bydd hanner yr holl smygwyr gydol oes yn marw o’u caethiwed, sef mwy na 100,000 o bobl y llynedd yn y Deyrnas Unedig.

Mae rhoi cynhyrchion tybaco mewn pecynnau safonol yn fesur poblogaidd. Mae ymchwil barn yn dangos bod 62% o’r cyhoedd yn cefnogi rhoi cynhyrchion tybaco mewn pecynnau plaen, safonol, ac mae mwy o smygwyr yn cefnogi’r mesur nag sydd yn ei wrthwynebu. Mae mwy na 200,000 o bobl wedi mynegi eu cefnogaeth i gyflwyno pecynnau plaen, safonol i gynhyrchion tybaco yn y Deyrnas Unedig. Yn rhyngwladol, mae pecynnau safonol eisoes mewn grym yn Awstralia, y wlad gyntaf i weithredu’r fath ddeddfwriaeth ym mis Rhagfyr 2012.

Mae’n brid i’r Deyrnas Unedig wneud yr un peth.

Leave a Comment