“Rhoddais i’r gorau i smygu ar y 1af o Hydref 2012 trwy’r rhaglen Pencampwyr am Iechyd y GIG. Ni smygais i o’r diwrnod cyntaf yn lle torri lawr dros 6 mis. Roedd gen i nifer o resymau am roi’r gorau i smygu, ond efallai’r prif rheswm oedd marwolaeth fy wraig 4 mlynedd yn ol. Ar y pryd roedd fy merch yn 14 mlwydd oed a ges i’r ysgogiad i weld hi’n raddi yn y dyfodol. Hefyd, rwy’n cymryd rhan yn nifer o chwaraeon, y prif un yw ffensio (epee) lle dwi’n rhan o’r grŵp Ffensio Veterans Cymru. Er mwyn parhau gyda’r tîm a fy ngwlad roedd angen i mi cadw’n heini, felly penderfynais i roi’r gorau i smygu.”
“O’n i’n tua 14 pryd dechrais i smygu, nawr rwy’n 60, felly ges i 46 mlynedd o smygu. Dwi’n ystyri fy hun yn ffodus iawn i dal allu rhedeg o gwmpas ar ôl gymaint o flynyddoedd yn smygu. Hefyd mae’r cost ariannol, ers i mi rhoi’r gorau i smygu dwi wedu achub dros £2000.”