Tybaco anghyfreithlon

yng Nghymru

Asesu’r sefyllfa bresennol ac edrych ar y materion sy’n ymwneud â thybaco anghyfreithlon yng Nghymru

am y digwyddiad

Ar ddiwedd mis Ionawr, cynaliasom ddigwyddiad Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru am dybaco anghyfreithlon yng Nghymru.

Daeth oddeutu 60 o weithwyr proffesiynol o wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, a chanolbwyntiodd y drafodaeth ar y pethau canlynol:

  • Beth yw’ch profiad a’ch canfyddiadau o dybaco anghyfreithlon?
  • Sut mae tybaco anghyfreithlon yn effeithio ar eich sefydliad neu’ch cymuned?
  • Pryd a sut ydych chi wedi dod ar draws tybaco anghyfreithlon?
  • Beth yw’r heriau sy’n gysylltiedig â thybaco anghyfreithlon?
  • Sut allwn ni weithio gyda’n gilydd i wella cydweithredu a chynyddu gwaith atal?
  • Wyddoch chi am fframwaith sy’n bodoli eisoes gydag ymagwedd gydweithredol y gellid ei ddefnyddio ar gyfer tybaco anghyfreithlon?
  • Ar sail eich profiad chi, sut allem ni ddylanwadu ar ymddygiad pobl sy’n prynu tybaco anghyfreithlon a’r rheiny sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon?

Cafodd y sgyrsiau ar y diwrnod eu cefnogi gan gyflwyniadau oddi wrth Uned Twyll CThEM, Rhwydwaith Gwybodaeth Asiantaethau’r Llywodraeth (GAIN) Cymru, Safonau Masnach ac enghreifftiau o ymgyrchoedd llwyddiannus blaenorol. Caiff y canlyniadau o’r gynhadledd eu troi’n briffiad cynhwysfawr, gan hwyluso ein gwaith ar dybaco anghyfreithlon yn y dyfodol.

Cyflwyniadau

Digwyddiadau rhwydwaith blaenorol a phynciau cysylltiedig

Cadwch Y Wybodaeth Ddiweddaraf Am Y Newyddion Diweddaraf A Rheoli Tybaco:

Y Newyddion Diweddaraf