In Blog Welsh

“Fy enw i yw Marc a dwi’n gwirfoddolwr am ASH Wales. Dechreuais i smygu o gwmpas yr oed o 13-14. Trwy gydol fy mhywyd ces i rhybuddion gan fy rhieni ar y peryglon o smygu, a faint o drwbl fyddai’n achosi os fyddai’n dechrau. Er roedd grwp o fy ffrindiau yn smygu, nid oeddwn i’n eisiau bod yn un ohonyn nhw. Trwy cymdeithasu gyda’r pobl yma ar ôl ysgol, dechreuodd smygu amgylchynu fi a teimlais i’n allgaeedig. Yr unig fford gwelais i o orchfygu’r teimlad yna oedd i ddechrau smygu. Ar ôl gwrthod sigarets fy ffrindiau am amser hyr, roedd e nawr yn wahanol. O’r diwrnod cyntaf lle derbynais i sigaret yr oeddwn i’n gaethyddol a wnes i barhau nes fy mhod i’n 17.

Marc Story

Yn ystod fy ail flwyddyn o’r goleg fe wnes i dewis ASH Wales i wneud lleoliad gwaith. Fy mhrif rheswm am ddewis ASH oedd y sgiliau gweithiwr ieuenctid gallwn nhw addysgu i mi. Roedd rhaid i fi helpu creu a dosbarthu sesiynau i bobl ifanc oddi amgylch Cymru ar y pwnc o smygu, tra fy mhod i’n smygu fy hunan. Es i fewn i ysgolion, PRUs, canolfeydd ieuenctid, NEETS, i ddosbarthu’r sesiynau, unrhyw man lle fydd pobl ifanc. Wrth siarad â phobl ifanc a’r peryglon o smygu i iechyd, fe teimlais i fel rhagrithiwr.

Cyn bo hir dysgais i llawer ar yr effeithiau o smygu i’r corff a tyfodd y chwant i roi’r gorau i smygu. Prynais i E-sigaret i helpu’r proses o roi’r gorau iddi ac yr oedd hynny’n effiethiol. Yr oedd yr E-sigaret yn lleihau’r cref am nicotin a cadw fi’n prysur yr un peth a sigarets. Nawr rwyf yn 18 ac wedu defnyddio’r E-sigaret am flwyddyn, ond rwy’n teimlo fy mhod i’n gaethyddol i hwnna yn lle sigarets.

Yn diweddar dwi wedu cymryd rhan yn prosiect ASH Wales, Y Filter, lle rwy’n creu sesiynau fy hun i addysgu pobl ifanc am smygu. Nid yn unig yw hyn yn helpu pobl eraill, ond mae’n datblygu fy sgiliau fel gweithiwr ieuenctid hefyd.”

Leave a Comment